Diwrnodau casglu gwastraff
Rydym yn casglu:
- gwastraff bwyd bob wythnos
- gwastraff gardd bob wythnos
- ailgylchu bob wythnos
- gwastraff cyffredinol bob pythefnos
Nodwch enw’ch stryd yn y chwilotwr isod i ddysgu ar ba ddiwrnod y caiff pob un o’ch biniau eu casglu.
Noder:
- Sicrhewch fod eich holl wastraff a deunyddiau i'w hailgylchu yn y man casglu erbyn 6am.
- Nid yw casgliadau biniau yn cael eu heffeithio gan wyliau banc ac yn cael eu casglu yn ôl yr arfer ac eithrio dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Bydd trefniadau eraill yn cael eu hysbysebu yn agosach at yr amser.
- Bydd deunyddiau ychwanegol i'w hailgylchu yn cael eu casglu, ond bydd angen iddyn nhw fod mewn bagiau clir.
- Gallwch roi ychydig o gardbord yn eich bin ailgylchu; gallwch fynd â mwy o gardbord i'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Cofiwch fynd â'ch coed Nadolig i'r canolfannau hyn i'w hailgylchu hefyd!
- Gall tywydd garw amharu ar wasanaethau oherwydd problemau mynediad i gerbydau. Os bydd y tywydd yn amharu ar wasanaethau, rydym yn anelu i gasglu erbyn diwedd yr wythnos. Pan fydd yr amodau hyn yn parhau am fwy nag wythnos, a / neu ni allwn wneud casgliad, byddwn yn eich hysbysu o drefniadau amgen ar y wefan hon. Am unrhyw gyngor pellach, cysylltwch â ni.