Cewynnau go iawn
Pam?
I arbed arian...
Bydd defnyddio cewynnau go iawn yn arbed arian i rieni a chymunedau. Bydd angen newid cewyn babi 2,000 o weithiau y flwyddyn. Gan ei fod yn cymryd tua dwy flynedd a hanner i blentyn ddechrau defnyddio poti, mae hynny bron yn 5,000 o gewynnau!
Mae pob cewyn sy’n cael ei ddefnyddio unwaith a’i daflu yn costio tua 16c. Yng Nghymru a Lloegr, rydym yn gwario tua hanner biliwn o bunnoedd arnynt bob blwyddyn.
Mae ymchwil ddiweddar gan Go Real yn dangos y gall rhieni arbed rhwng £150 i dros £1000 dros y cyfnod y bydd angen cewyn ar fabi, yn dibynnu ar ba gewynnau a ddefnyddir. Mae’n ffordd syml a gwych o arbed arian. (Ac mae mwy o arbedion byth os oes gennych fwy nag un plentyn!)
Yn well i’r amgylchedd...
Amcangyfrifir gan fod mwyafrif helaeth y 813,000 o fabis sy’n cael eu geni yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn (ac mae’r ffigur yn codi) yn defnyddio cewynnau sy’n cael eu taflu ar ôl eu defnyddio, mae hynny gyfystyr â thua 3 biliwn o gewynnau tafladwy bob blwyddyn, sef 355,000 tunnell o wastraff, sy’n costio tua £32m y flwyddyn i awdurdodau lleol (a threthdalwyr) eu gwaredu bob blwyddyn.
Nid dim ond ein cymuned leol sy’n cael budd ohonynt, ond yr amgylchedd hefyd. Mae adroddiadau’n dangos y gallai'r carbon a gynhyrchir ostwng 40% wrth ddefnyddio cewynnau y gellir eu hailddefnyddio yn hytrach na rhai tafladwy - sy’n cynnwys eu golchi!
Ffasiynol...cyfforddus...cyfoes...
Mae cewynnau modern yn ffasiynol ac maent yn dod mewn pob math o batrymau, dyluniadau, meintiau a lliwiau. Gallwch hyd yn oed brynu rhai wedi’u personoleiddio!
Os ydych wedi’ch ysbrydoli i roi cynnig arnynt, ewch i’r wefan i ddysgu mwy. Neu ewch i’r dudalen digwyddiadau i ddod o hyd i ddigwyddiad lleol yn agos atoch chi.
Cofiwch, mae pob cewyn y gallwch ei ailddefnyddio yn golygu nad oes angen taflu cewyn tafladwy i safle tirlenwi
Rhagor o wybodaeth yna ewch i'r wefan.