Gwasgaru ceiswyr lloches

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan statws ‘Cenedl Noddfa’ i Gymru i groesawu pobl trwy lwybrau diogel a chyfreithlon sydd angen cymorth ar sail ddyngarol i ailadeiladu eu bywydau.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cymryd rhan mewn cynllun peilot i fod yn ‘ardal wasgaru’ yng Nghymru. Mae Caerdydd, Abertawe, Casnewydd, Wrecsam a Chonwy hefyd yn ardaloedd gwasgaru ar gyfer cesiwyr lloches. Mae ardal wasgaru ar gyfer ceiswyr lloches yn fan dynodedig lle mae'r Cyngor wedi cytuno â'r Swyddfa Gartref y bydd yn darparu cymorth i geiswyr lloches. Mae Caerffili wedi cytuno i helpu pum teulu.

Mae sgiliau, profiadau a chydnerthedd ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn ddefnyddiol i Gymru, a bydd eu cynnwys nhw'n gwella ein cymunedau. Rydyn ni eisoes wedi cael profiad cadarnhaol o sefydlu teuluoedd ffoaduriaid ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, trwy fod yn rhan o Gynllun Adsefydlu y Deyrnas Unedig ers 2015.

Cwestiynau cyffredin

Pam mae pobl yn ceisio lloches?

Mae pobl yn ceisio lloches oherwydd bod arnyn nhw ofn rhesymol o gael eu herlid yn eu mamwlad. Mae llawer o'r ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn y Deyrnas Unedig wedi cael eu harteithio neu wedi dioddef trawma difrifol yn eu gwlad wreiddiol.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng ceisiwr lloches a ffoadur?

Ceisiwr lloches:

Mae ceisiwr lloches yn berson sy'n honni ei fod yn ffoi rhag erledigaeth yn ei famwlad, ac sydd wedi cyrraedd gwlad arall, sydd wedi hysbysu'r awdurdodau ei fod yno ac wedi arfer ei hawl gyfreithiol i wneud cais am loches.

Ffoadur:
Mae ffoadur yn berson sydd wedi gwneud cais llwyddiannus am loches, sydd â chaniatâd y Swyddfa Gartref i aros, ar ôl profi y byddai'n wynebu erledigaeth yn ei wlad wreiddiol. Mae Confensiwn 1951 y Cenhedloedd Unedig yn disgrifio ffoadur fel ‘a person who has proved a well-founded fear of being persecuted in their home country for reasons of race, religion, nationality, membership of a political social group, or political opinion.’ Felly, mae ei gais am loches yn llwyddiannus, ac mae'n cael aros mewn ‘gwlad ddiogel’ arall.

O ble mae ceiswyr lloches yn dod?

Mae ceiswyr lloches yn aml yn dod o wledydd lle mae rhyfel neu wrthdaro, neu wlad gyda hanes o hawliau dynol gwael. Rhai enghreifftiau o wledydd o ble mae ceiswyr lloches yn dod yw Twrci, Algeria, Irac, Rwmania, Affganistan a Syria.
 

Pwy fydd yn gyfrifol am roi cymorth i geiswyr lloches?

Clearsprings Ready Homes yw'r sefydliad sy'n gyfrifol am ddod o hyd i eiddo, a chynnal y gwiriadau angenrheidiol ynghylch addasrwydd yr eiddo a'r ardal. Bydd Clearsprings yn darparu a rheoli'r holl gymorth ar gyfer y teuluoedd, gan gynnwys mynediad at gymorth ddydd a nos.

Bydd cyfathrebu rheolaidd rhwng adrannau'r Cyngor, gan gynnwys tai, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, Clearsprings a phartneriaid allanol, fel iechyd a'r heddlu. Bydd y Cyngor yn trefnu cyfarfodydd rheolaidd â phawb sy'n darparu cymorth i'r teuluoedd.
 

Pwy sy'n talu costau lletya ceiswyr lloches?

Ni all ceiswyr lloches ddewis ble i fyw – y Swyddfa Gartref sy'n penderfynu ar hyn. Mae'r llywodraeth ganolog yn talu holl gostau lletya ceiswyr lloches. Ni all ceiswyr lloches weithio ac nid ydyn nhw'n gymwys i hawlio budd-daliadau. Maen nhw'n cael buddion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a rhai gwasanaethau addysgol. Mae'r llywodraeth ganolog yn talu'r costau yn uniongyrchol.
 

A fydd ceiswyr lloches yn cael blaenoriaeth ar restr aros am dai y Cyngor?

Bydd Clearsprings yn gweithio gydag isadran tai y Cyngor i drafod eiddo rhent preifat addas ar gyfer teuluoedd sy'n cael eu gwasgaru i'r ardal. Ni fydd eiddo sy'n cael eu nodi ar gyfer gwasgaru ceiswyr lloches yn cynnwys eiddo sy'n cael eu hystyried gan y Cyngor ar gyfer unrhyw anghenion tai eraill, gan gynnwys pobl sydd wedi'u heffeithio gan ddigartrefedd. Felly, ni fydd yn effeithio ar y rhestr aros gyfredol.
 

A fydd yr holl deuluoedd yn cael eu lleoli yn yr un ardal yn y Fwrdeistref Sirol?

Bydd angen ystyried anghenion y teulu ac addasrwydd yr ardal sydd wedi'i nodi ar gyfer unrhyw deulu. Bydd unrhyw faterion cydlyniant neu ddiogelwch cymunedol sy'n cael eu nodi yn yr ardal hefyd yn cael eu hystyried.

Pa wiriadau sy'n cael eu cynnal mewn perthynas â cheiswyr lloches?

Mae pawb sy'n ceisio lloches yn destun gwiriadau sgrinio diogelwch. Mae Clearsprings yn cyfathrebu'n rheolaidd â gweithwyr llety gweithwyr lloches; gan reoli tai a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau yn yr eiddo, gyda chymorth yn ôl yr angen gan Migrant Help. Mae pobl sy'n ceisio lloches yn parchu deddfau'r Deyrnas Unedig â pharodrwydd (noder – bydd peidio â gwneud hynny yn effeithio ar eu cais) ac yn derbyn sesiynau cynefino ar hawliau a chyfrifoldebau a deddfau'r Deyrnas Unedig. Bydd y mwyafrif o bobl yn treulio peth amser mewn llety cychwynnol, cyn cael eu gwasgaru i'r Cyngor dan sylw yng Nghymru.
 

A fydd cymorth gan y Swyddfa Gartref/Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau integreiddio effeithiol?

Bydd y Swyddfa Gartref a Phartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru yn gweithio'n agos â Clearsprings a'r Cyngor er mwyn sicrhau integreiddio effeithiol. Mae'r Cyngor yn mynychu cyfarfodydd bob pythefnos gydag ardaloedd eraill sy'n ardaloedd gwasgaru ar gyfer ceiswyr lloches ar hyn o bryd; mae'r cyfarfodydd hyn yn sicrhau bod gan Gaerffili'r wybodaeth a datblygiadau diweddaraf ynghylch gwasgaru ceiswyr lloches o safbwynt lleol a chenedlaethol.
 

Am ragor o wybodaeth am wasgaru ceiswyr lloches, anfonwch e-bost at y Swyddogion Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol thomak9@caerffili.gov.uk / foleys1@caerffili.gov.uk