Gwnewch gais am dai Landlord Cymunedol

Ni fydd ein Tîm Cofrestr Tai Cyffredin ar gael ddydd Gwener 22 Mawrth a dydd Mercher 27 Mawrth. 
 
Mae hyn oherwydd y bydd y tîm yn diweddaru ceisiadau'r Gofrestr Tai Cyffredin, fel rhan o'r broses ailgofrestru flynyddol.  Bydd unrhyw un sy’n ffonio llinellau ffôn y tîm yn cael neges llais, a fydd yn dweud bod y swyddfa ar gau ar y diwrnod hwnnw.
 
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra. Heblaw am y dyddiadau hyn, gallwch chi gysylltu â'r tîm yn ystod oriau swyddfa arferol dros y ffôn a drwy e-bost.



Rydym bellach yn gweithredu Cofrestr Tai Cyffredin lle gallwch wneud cais am dai Landlord Cymunedol gyda'r cyngor a landlordiaid tai cymdeithasol eraill ym mwrdeistref sirol Caerffili gyda chais ar-lein sengl.

Os hoffech wneud cais am dai Landlord Cymunedol, bydd angen i chi lenwi ein ffurflen gais ar-lein.

Cofrestr Tai Cyffredinol - Hysbysiadau preifatrwydd (PDF)

Os ydych chi'n teimlo y gallech gael anawsterau wrth lenwi'r ffurflen ar-lein, cysylltwch â ni ar 01443 873521.

Sut caiff cartrefi eu dyrannu?

Mae'r holl eiddo a osodir gan y darparwyr tai'n cael eu gosod drwy'r Gofrestr Tai Cyffredin yn unol â'r Polisi Dyrannu Cyffredin.

Pa mor hir fydd yn rhaid i mi aros?

Mae hyn yn dibynnu ar faint a math y tai rydych eisiau, ac ar yr ardaloedd neu ranbarthau rydych yn dewis.

Mae'r daenlen Excel isod yn eich cynghori am eich rhagolygon o gael eich ailgartrefu mewn gwahanol ardaloedd a gwahanol fathau o eiddo.

Rhagolygon Tai (Excel 63kb)

Cartrefi sy’n barod i’w rhentu

Bob wythnos rydym yn cyhoeddi rhestr o eiddo sy'n 'barod i'w rhentu', ar yr amod bod yr eiddo yn addas ar gyfer eich anghenion. Am fanylion ewch i'n tudalen we Cartrefi sy’n barod i’w rhentu.

Beth yw'r Gofrestr Tai Gyffredin? 

Mae'r Gofrestr Tai Gyffredin yn darparu un pwynt mynediad i bawb sydd â diddordeb mewn tai cymdeithasol, tai hygyrch neu perchentyaeth cost isel ym mwrdeistref sirol Caerffili. 

Cyflwynwyd y Gofrestr Tai Gyffredin ar 5 Rhagfyr 2016 ac mae'n disodli'r holl gofrestri tai a gynhelir gan y cyngor a'n partneriaid.

 

Pwy sy'n cymryd rhan?

Mae’r sefydliadau canlynol yn cyfranogi yn y prosiect:

  • Cymdeithas Tai Aelwyd
  • Cartrefi Caerffili (Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili)
  • Cymdeithas Tai Cadwyn
  • Pobl
  • Cymdeithas Tai Linc Cymru
  • Cymdeithas Tai Unedig Cymru
  • Cymdeithas Tai Wales & West

Sut fyddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu gan Dîm Asesu Cofrestr Tai Cyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a darparwyr tai cymdeithasol eraill sy'n gweithredu o fewn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, er mwyn asesu eich cymhwyster i gael eich derbyn ar y Gofrestr Tai Cyffredin, i benderfynu lefel y flaenoriaeth y gellir ei ddyfarnu i'ch cais a materion cysylltiedig eraill. Rydym yn dibynnu ar eich caniatâd i brosesu eich gwybodaeth a all gael ei dynnu'n ôl. 

Bydd y wybodaeth a gyflwynwch yn eich cais Cofrestr Tai Cyffredin yn cael ei defnyddio i asesu eich cymhwyster a'i defnyddio i benderfynu ar eich categori o angen o ran tai. Yn seiliedig ar eich categori o angen o ran tai, efallai y cewch gynnig tai Landlord Cymunedol addas pan fydd ar gael. Mae'r broses hon yn cynnwys rhai elfennau o wneud penderfyniadau awtomatig.

Er mwyn asesu'ch cais ac i sicrhau cywirdeb y wybodaeth a ddarparwyd gennych, gall Tîm Asesu Cofrestr Tai Cyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a/neu ddarparwyr tai Landlord Cymunedol eraill ofyn am wybodaeth oddi wrth a throsglwyddo gwybodaeth i gyrff eraill. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio'r wybodaeth a ddarparwyd gennych i atal a chanfod twyll a gall hefyd ofyn am wybodaeth oddi wrth a throsglwyddo gwybodaeth i sefydliadau eraill sy'n trin arian cyhoeddus.

Gellir rhannu unrhyw wybodaeth ar eich ffurflen gais Cofrestr Tai Cyffredin sy'n ymwneud â landlordiaid, asiantau neu eiddo rhent yn y sector preifat ag Iechyd Amgylcheddol cyngor bwrdeistref sirol Caerffili.

Yn gyffredinol, cedwir y wybodaeth sydd gennym ynglŷn â'ch cais Cofrestr Tai Cyffredin, gan gynnwys unrhyw ddogfennau cysylltiedig, am 7 mlynedd ond fe all hyn fod yn hirach mewn rhai amgylchiadau.

Mae gennych nifer o hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth, gan gynnwys yr hawl i gael gafael ar wybodaeth sydd gennym amdanoch chi a'r hawl i gwyno os ydych chi'n anhapus â'r ffordd y mae eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ar sut rydym yn prosesu eich gwybodaeth a'ch hawliau.

Er mwyn cwblhau asesiad o amgylchiadau'r ymgeisydd, gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ofyn am wybodaeth ychwanegol gan ddefnyddio ffurflen ragnodedig. Mae rhagor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu'r wybodaeth hon ac am hawliau i wybodaeth ar gael yn y ddogfen isod.

Cofrestr Tai Cyffredin - Gwybodaeth trydydd parti i gefnogi'r cais (PDF)

Gwybodaeth bellach

Am ragor o wybodaeth am y Gofrestr Tai Gyffredin, ffoniwch 01443 873521 neu e-bostiwch chr@caerphilly.gov.uk.

Cysylltwch â ni