Cyngor ar Dai

Shelter Cymru

Am gyngor tai annibynnol, arbenigol cysylltwch â Shelter Cymru:

Ffôn: 0345 075 5005
E-bost: emailadvice@sheltercymru.org.uk
Gwefan: www.sheltercymru.org.uk

Mae yna hefyd ap ffôn symudol Shelter Cymru Housing Help ar gael nawr i'w lawrlwytho am ddim ar ffonau a llechi Apple, Android a Windows. Chwiliwch am 'Shelter Cymru' yn eich siop apiau, neu gliciwch yma i gael gwybod mwy:  http://sheltercymru.org.uk/housing-help-mobile-app/

Cefnogi pobl

Os ydych chi'n byw yn ardal Bwrdeistref Sirol Caerffili, dros 16 oed ac yn ei chael hi'n anodd cadw'ch cartref, mewn perygl o golli'ch swydd, angen symud neu angen help gyda'ch cyllid, gallai'r Tîm Cefnogi Pobl gynnig cymorth i chi. Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai

Ydych chi’n ddigartref neu’n wynebu’r risg o fod yn ddigartref? 

Os felly, gallwn roi help a chyngor i chi, a gallwn hyd yn oed eich helpu i ddod o hyd i lety dros dro. Cysylltwch â ni i gael rhagor o gyngor.

Rydym wedi cyhoeddi cyfres o ganllawiau sydd ar gael i’w lawrlwytho isod:

Llety dros dro a llety parhaol (PDF 104kb)

Ydych chi’n poeni y gallech golli eich cartref? (PDF 2.5mb)

Sut rydym ni’n asesu bwriadoldeb digartrefedd (PDF)

Mae cyngor ar gael hefyd gan eich Swyddfa Cyngor ar Bopeth leol.

Ydych chi’n ddigartref neu’n debygol o fod yn ddigartref?

Os ydych, gallwn roi help a chyngor i chi ac efallai gallwn helpu gyda llety dros dro. Cysylltwch â ni am gyngor pellach.

Mae cyngor hefyd ar gael o’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol.
 
Cysylltwch â ni

Tudalennau Cysylltiedig

Dod o hyd i gartref