Cymorth hyblyg

Gwasanaeth cymorth fel y bo angen yw cymorth hyblyg, sy’n eich helpu i reoli eich amgylchiadau a byw mor annibynnol â phosib. Bydd y cymorth rydych chi’n ei gael yn ddibynnol ar eich anghenion chi. Mae’r cymorth hwn ar gael i bobl o bob oedran neu ddeiliadaeth.
 

Ynghylch tîm Cymorth Hyblyg Cartrefi Caerffili

Mae ein Swyddogion Cymorth Hyblyg wedi’u hyfforddi’n arbennig i ddarparu cyngor a chymorth i bobl yn eu cartrefi eu hunain. Maen nhw’n darparu cefnogaeth tymor byr yn ymwneud â thai, ond gall y gefnogaeth hon barhau am gyfnod hirach os bydd angen.  Bydd ein Swyddog Cymorth Hyblyg yn trafod hyn gyda chi, ac os ydych yn gymwys am gefnogaeth, bydd y Swyddog yn cytuno ar gynllun cymorth gyda chi sy’n bodloni eich anghenion.

Pa gefnogaeth fydda i’n ei chael?

Byddwn yn trafod ac yn cytuno ar eich anghenion cymorth gyda chi yn ystod ein hymweliad cyntaf.

Gallwn roi cymorth i’ch cynorthwyo gyda:

  • Cynyddu incwm a chyngor ar fudd-daliadau lles.
  • Gwneud ceisiadau am gyllid grant.
  • Adrodd am atgyweiriadau, datrys materion yn ymwneud â rhent a materion eraill sy’n ymwneud â thai.
  • Canllawiau ar gadw’ch tŷ’n gynnes, yn ddiogel ac yn gyfforddus; cyngor ynni.
  • Perygl digartrefedd.
  • Rheoli neu ddatrys dyledion ariannol.
  • Rheoli eich incwm, biliau a chyllidebu.
  • Helpu gyda sgiliau byw bob dydd.
  • Ymateb i ohebiaeth, llenwi ffurflenni ac ysgrifennu llythyrau.
  • Eich cyfeirio at wasanaethau eraill a all fod o fudd i chi.
  • Eich cyfeirio at wasanaethau i gael cymorth er mwyn lleihau unigrwydd ac ynysu.
  • Eich cysylltu gyda’r gymuned leol. 

Ni fydd modd i ni eich cynorthwyo chi’n bersonol gyda:

  • Cludiant i apwyntiadau.
  • Cael gwared â dodrefn.
  • Addurno, glanhau neu arddio.
  • Gwasanaethau o amgylch y tŷ neu atgyweirio.
  • Gwasanaethau cwnsela neu gyfeillio.
  • Gofal personol neu roi meddyginiaeth.

Siopa, ymdrin ag arian neu wasanaethau bancio.Nid yw’r rhestrau uchod yn gynhwysfawr, a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fyddwn yn cwrdd â chi beth allwn ni ei wneud i’ch cefnogi, a beth na allwn ni ei wneud.

Alla i wneud cais am y gwasanaeth yma?

Mae’r gwasanaeth ar gael i unrhyw un dros 16 oed ar draws unrhyw ddaliadaeth sydd angen cymorth yn ymwneud â thai. 

Mae’n rhaid eich bod chi’n barod i gytuno ac i dderbyn cynllun cymorth a chynllun gweithredu cysylltiedig i’ch cynorthwyo chi wrth dderbyn cefnogaeth. Mae’n rhaid i chi hefyd ddod i gyswllt â Swyddog Cymorth Hyblyg a derbyn ymweliadau ganddynt er mwyn datblygu eich cynllun cefnogaeth.

Sut mae cael mynediad at y cymorth?

Gallwch hunan-atgyfeirio’n uniongyrchol drwy ein porth Cefnogi Pobl, neu gall rhywun arall eich atgyfeirio i gael cymorth drwy wefan Cefnogi Pobl, drwy www.caerphilly.gov.uk/cefnogipobl, neu drwy anfon e-bost at CefnogiPobl@caerffili.gov.uk Gallwch hefyd ffonio’r tîm Cefnogi Pobl yn uniongyrchol drwy 0I443 864548.

Gallwch gysylltu â Thîm Cymorth Hyblyg Cartrefi Caerffili yn ystod oriau swyddfa arferol dros y ffôn neu drwy e-bost fel a ganlyn:

ffôn: 01443 811425
e-bost: CymorthHyblyg@caerffili.gov.uk