Am Dîm Caerffili

Gweithio gyda ni

Dave Street Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

Helo, Dave ydw i a fi yw Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai. Rydw i wedi bod yn gweithio i Gaerffili ers i mi adael yr ysgol, sef dros 40 o flynyddoedd.
 
Mae fy meysydd gwasanaeth i yn dra gwahanol o ran gweithredu, ond mae'r ddau faes yn gwasanaethu anghenion rhai o'n trigolion mwyaf agored i niwed.
 
Yn gyntaf, Gofal Cymdeithasol.  Mae’r tîm hwn yn cynnwys Gwasanaethau i Blant a Gwasanaethau i Oedolion, ac rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud bod y ddau faes gwasanaeth yn llawn staff dawnus, empathig ac ymroddedig.
 
Mae yna hen ddywediad bod, ar ryw adeg ym mywyd pawb, bydd angen ychydig o help arnyn nhw, a dyna pam rydyn ni yma, i helpu teuluoedd sy’n wynebu anawsterau, plant sydd angen gofal, oedolion ag anghenion cymhleth sydd angen cyfleoedd a phobl hŷn sydd angen gofal cartref neu, mewn rhai achosion, gofal preswyl.
Dim ond i enwi rhai o’n meysydd ni y mae hynny. Gallai gyrfa yn y sector hwn eich arwain chi i lawr cymaint o lwybrau, ac rydw i’n enghraifft wych o hynny.
 
Rydw i hefyd yn gyfrifol am Dai a, dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld rhai cartrefi’n cael eu trawsnewid mewn ffyrdd anhygoel fel rhan o Safon Ansawdd Tai Cymru, sef y buddsoddiad mwyaf erioed gan y Cyngor yn y stoc tai.
 
Rydyn ni hefyd yn adeiladu tai cyngor am y tro cyntaf ers 18 mlynedd ac yn moderneiddio a thrawsnewid ein gwasanaethau ni i ddiwallu anghenion cyfnewidiol y gymuned.
Os ydych chi'n berson ymroddedig a blaengar sy'n edrych am yrfa mewn llywodraeth leol, yna yn bendant, mae gennym ni rywbeth i chi.

Richard (Ed) Edmunds Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol

Helo. Ed ydw i a fi yw’r Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol. Ymunais â’r awdurdod yn ôl yn 2018 ac rydw i wedi treulio bron i 30 mlynedd yn y sector cyhoeddus. Rydw i’n gyfrifol am oruchwylio llawer o’r swyddogaethau cymorth sy’n pennu’r cyfeiriad strategol ar gyfer yr awdurdod ac yn galluogi darparu gwasanaethau rheng flaen o ansawdd uchel.
 
Mae gwasanaethau fel Adnoddau Dynol, Iechyd a Diogelwch, Cyfathrebu, TG, Caffael, Cyllid, Y Gyfraith a Thrawsnewid i gyd yn rhan graidd o fodel gweithredu’r Cyngor ac yn helpu gwasanaethau rheng flaen allweddol i weithredu gwasanaeth cyhoeddus 365 diwrnod y flwyddyn.
 
Mae gennym ni dimau o bobl hynod dalentog, ac mae llawer ohonyn nhw wedi cael eu magu yng Nghyngor Caerffili ac wedi symud ymlaen yn eu gyrfa nhw wrth iddyn nhw ennill cymwysterau a phrofiad.
 
Gyda thirwedd newidiol y ffordd rydyn ni’n gweithio, ni fu gwasanaethau cymorth erioed mor bwysig i alluogi pobl i drawsnewid a gwasanaethau i addasu. Mae hyn yn rhywbeth a ddaeth i’r amlwg yn ystod y pandemig, a bydd gweithio fel aelod gwerthfawr o wasanaethau cymorth y Cyngor yn bendant yn caniatáu i chi newid wyneb gweithrediadau gwasanaethau cyhoeddus a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n trigolion.
 
Rydw i hefyd yn gyfrifol am Addysg, Ysgolion a Dysgu Gydol Oes, maes gwasanaeth enfawr sy'n helpu plant o'r blynyddoedd cynnar hyd at addysg bellach ar draws nifer o wasanaethau.
 
Mae’n braf cael gweithio gyda grŵp o benaethiaid, athrawon, staff cymorth a gweithwyr proffesiynol hynod dalentog i roi’r cyfle gorau posibl i bob dysgwr gyflawni ei nodau mewn bywyd. Rydyn ni’n ceisio cyflawni rhagoriaeth gyda’n gilydd ac rydyn ni ar daith wych a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i genedlaethau’r dyfodol.
 
Rydyn ni mor angerddol dros newid a gwella’r amgylchedd dysgu a, drwy weithio gyda Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi adeiladu nifer o Ysgolion yr 21ain Ganrif, a byddwn ni’n parhau i’w adeiladu nhw, sy’n arddangos sut y gall adeiladau a thechnoleg newydd wneud gwahaniaeth i brofiad a chyflawniadau ein dysgwyr ni.
 
Os ydych chi'n chwilio am her newydd neu yrfa gydol oes yn y maes sy'n newid yn barhaus, sef y gwasanaethau cyhoeddus, yna ni yw'r tîm iawn i chi!

Mark S Williams Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau

Helo. Mark S Williams ydw i. Fi yw’r Cyfarwyddwr Corfforaethol dros yr Economi a’r Amgylchedd ac rydw i wedi byw yn y Fwrdeistref Sirol drwy gydol fy oes ac wedi gweithio i Gyngor Caerffili am fwy na 30 mlynedd.
 
Rydw i’n gyfrifol am lawer o’r gwasanaethau sy’n gwasanaethu’r gymuned, gan gynnwys gwasanaethau rheng flaen megis rheoli Gwastraff, Priffyrdd, Parciau/Mannau Gwyrdd, Cynllunio, Adfywio, Chwaraeon a Hamdden, Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Tir ac Eiddo.
 
Mae llawer o fy ngwasanaethau i yn darparu ar y rheng flaen i drigolion a’r gymuned fusnes fel ei gilydd ac yn chwarae rhan hanfodol mewn diogelu’r cyhoedd a helpu cymunedau a threfi i addasu i anghenion cyfnewidiol y gymuned.
Mae gennym ni amrywiaeth enfawr o rolau amrywiol ac rydyn ni’n cynnig amgylchedd gwaith tîm gwych i helpu pobl i dyfu a datblygu gyrfaoedd.
 
Er enghraifft, mae'r Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden a'u timau yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau ein bod ni’n darparu cyfleoedd a chyfleusterau i bawb yn y Fwrdeistref Sirol. Rydyn ni’n croesawu cymaint o staff o ysgolion i'r gwasanaethau hyn, o hyfforddwyr i gynorthwywyr hamdden, ac mae llawer ohonyn nhw’n dal i fod gyda ni heddiw mewn swyddi uwch.
 
Mae meysydd gwasanaeth mawr, Rheoli Gwastraff, Glanhau, Parciau a Phriffyrdd, yn wasanaethau rheng flaen a hanfodol i drigolion. Mae'r timau'n cysylltu pobl â lleoedd ac yn sicrhau bod gennym ni amgylchedd gwyrddach a glanach i drigolion.
 
Bydd gweithio i un o’m gwasanaethau niferus i yn cynnig y cyfle i chi weithio yng nghanol darparu gwasanaethau cyhoeddus a gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad.