Ymunwch â'r llyfrgell

Er mwyn ymaelodi â'r llyfrgell mae angen gwneud cais am gerdyn aelodaeth.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am aelodaeth

Mae eich cerdyn llyfrgell yn rhoi mynediad i chi at wasanaethau llyfrgelloedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, a rhaid ei ddangos bob tro y byddwch chi'n defnyddio ein cyfleusterau.

Mae eich cerdyn hefyd yn eich galluogi chi i gael mynediad at ein hadnoddau ar-lein. I alluogi'r gweithrediad hwn, bydd angen i chi wybod eich PIN 4-digid sy'n gysylltiedig â'ch cyfrif llyfrgell. Am ragor o wybodaeth, holwch aelod o'r staff.

Profi eich hunaniaeth

Wrth wneud cais am gerdyn llyfrgell bydd angen i chi ddangos o leiaf un ddogfen adnabod gyda'ch enw arni, er enghraifft:

  • Trwydded yrru
  • Bil cyfleustod
  • Llyfr budd-daliadau
  • Datganiad Cerdyn Credyd/Banc
  • Pasbort

Os ydych chi o dan 16 oed bydd angen i'ch rhiant neu ofalwr ddangos un math o ddogfen adnabod a llofnodi'r ffurflen ymaelodi. Gall babanod ymaelodi â'r llyfrgell o'u genedigaeth – y cyfan sydd ei angen arnom ni yw dogfen adnabod y rhiant neu ofalwr.

Hysbysiad preifatrwydd

Byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth chi i weinyddu'r gwasanaeth llyfrgelloedd. Rydyn ni’n dibynnu ar y sail gyfreithiol tasg gyhoeddus fel yr amlinellir yn Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU. Mae’n bosibl y caiff eich data ei rannu pan fo’n ofynnol yn ôl y gyfraith, mewn perthynas â phryderon diogelu neu wrth ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd eich gwybodaeth chi'n cael ei chadw hyd at pan nad ydych chi eisiau defnyddio'r gwasanaeth ymhellach neu ein bod yn nodi bod eich cyfrif llyfrgell yn anweithredol ers 5 mlynedd.

Mae gennych chi nifer o hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth, gan gynnwys yr hawl i gael gafael ar wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi a'r hawl i gwyno os ydych chi'n anhapus â'r ffordd y mae eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu.

Am ragor o wybodaeth ewch i'n hysbysiad preifatrwydd.

Telerau ac amodau'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd

  • Mae unrhyw un sydd am ddefnyddio gwasanaethau llyfrgelloedd yn cael bod yn aelod o'r llyfrgell.
  • Mae bod yn aelod o'r llyfrgell am ddim, a bydd un cerdyn llyfrgell am ddim yn cael ei roi i bob unigolyn wrth ymaelodi â Gwasanaeth Llyfrgelloedd Caerffili.
  • Bydd cardiau llyfrgell sydd wedi'u colli, wedi'u dwyn neu wedi'u difrodi yn cael eu hamnewid am dâl o £2 yr un.
  • Bydd angen i bawb sy'n ymaelodi ddangos dogfen adnabod i gadarnhau pwy ydyn nhw, neu eu cyfeiriad, er mwyn dod yn aelod llawn o'r llyfrgell.
  • Yn achos unrhyw un o dan 16 oed, bydd angen i riant neu warcheidwad gydlofnodi ei ffurflen ymaelodi.
  • Mae'r cerdyn llyfrgell at ddefnydd deiliad y cerdyn yn unig ac nid yw'n drosglwyddadwy. 
  • Dim ond yn unol â'r telerau ac amodau wedi'u pennu gan Wasanaeth Llyfrgelloedd Caerffili y mae modd defnyddio'r cerdyn llyfrgell.
  • Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cadw'r hawl i dynnu'r cerdyn llyfrgell yn ôl, neu ei ddiwygio. Mae'r cerdyn llyfrgell yn eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Fel aelod o Wasanaeth Llyfrgelloedd Caerffili, rydych chi'n cytuno i'r canlynol:

  • Bod yn gyfrifol am eich cerdyn llyfrgell
  • Dangos y cerdyn llyfrgell neu rif y cerdyn llyfrgell pryd bynnag rydych chi am ddefnyddio gwasanaethau llyfrgelloedd
  • Dychwelyd neu adnewyddu eitemau rydych chi wedi'u benthyca, cyn y dyddiad dychwelyd
  • Gofalu am yr holl eitemau rydych chi'n eu benthyca
  • Talu unrhyw ffioedd, yn sgil defnyddio'r gwasanaeth, yn brydlon
  • Rhoi gwybod i'r llyfrgell yn brydlon os byddwch chi'n colli eich cerdyn llyfrgell, neu os yw'n cael ei ddwyn
  • Rhoi gwybod i'r llyfrgell yn brydlon am unrhyw achos o newid cyfeiriad neu fanylion cyswllt eraill

Drwy lofnodi a defnyddio'r cerdyn llyfrgell rydych chi'n cadarnhau eich bod chi wedi darllen a deall y datganiad hwn ac yn cytuno i gadw at y telerau ac amodau.

Cysylltwch â ni