Pori Llyfrgelloedd
Nid oes angen i gwsmeriaid y llyfrgell drefnu apwyntiad ar gyfer ymweld ag adeiladau ein llyfrgelloedd.
Teimlo'n ddiogel yn eich llyfrgell leol
Bydd llawer o wasanaethau rydyn ni wedi'u rhoi ar waith ar ddechrau'r pandemig yn aros yn eu lle a gallwch chi barhau i ddefnyddio'r rhain:
- Archebu a chasglu
- Gwasanaeth dosbarthu i'r cartref – LibraryLink
- Blychau dychwelyd
- Llungopïo hunanwasanaeth
- Dychwelyd, adnewyddu a chadw llyfrau hunanwasanaeth
- Ardal Wi-Fi
Pethau y mae angen i chi eu gwybod…
Rhoi'r gorau i osod stoc llyfrgell dan gwarantin.
Nid yw'n ofynnol bellach i osod stoc llyfrgell dan gwarantin ar ôl eu dychwelyd neu eu benthyca. Fodd bynnag, byddwn ni'n parhau i ddarparu clytiau gwrthfacterol a hylif diheintio dwylo ym mhob un o'n llyfrgelloedd ni os ydych chi'n dymuno glanhau'r eitemau cyn mynd â nhw adref.
Gorchuddion wyneb a sgriniau desg
Gofynnir i gwsmeriaid ystyried gwisgo gorchudd wyneb yn y llyfrgell.
Bydd sgriniau desg Perspex, rhwystrau i helpu cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr ac arwydd diogelwch COVID-19 yn aros yn eu lle ym mhob llyfrgell.
Ffurflenni'r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn parhau i ddefnyddio'r strategaeth brofi. Fodd bynnag, eich penderfyniad personol chi yw'r opsiwn p'un a ydych chi am lenwi ffurflen y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu neu sganio'r cod QR. Byddwn ni'n cadw Ffurflenni Cyswllt y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu a Chodau QR y GIG ar ein gwefannau pe byddech chi'n dymuno cwblhau prosesau'r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu.
Lluniaeth
Bydd ein peiriannau gwerthu yn cael eu hailstocio a'u hail-gomisiynu a bydd clytiau gwrthfacterol ar gael ger y peiriannau.
Toiledau'r llyfrgelloedd
Mae'r toiledau cyhoeddus bellach ar gael i'r holl gwsmeriaid.
Mannau astudio
Efallai bod man astudio ar gael mewn rhai llyfrgelloedd. Efallai bod y mannau astudio ychydig i ffwrdd o'r prif ardaloedd pori a bydd clytiau gwrthfacterol ar gael i chi ddiheintio'r arwynebau cyn ac ar ôl eu defnyddio nhw.
Yr hyn rydyn ni'n ei ddisgwyl gennych chi
Mae eich diogelwch yn bwysig i ni o hyd, felly:
- Peidiwch ag ymweld â'r llyfrgell os ydych chi'n sâl neu'n dangos symptomau coronafeirws.
- Gofynnir i gwsmeriaid ystyried gwisgo gorchudd wyneb yn y llyfrgell
- Cofiwch gadw pellter cymdeithasol a dilyn y canllawiau iechyd a diogelwch sydd ar waith.
- Peidiwch ag amharchu'r staff – maen nhw yno i'ch helpu chi.
- Defnyddiwch y gorsafoedd diheintio dwylo yn y llyfrgell. Cofiwch ddiheintio eich dwylo wrth gyrraedd y llyfrgell, ac wrth adael.
- Bydd angen i bob plentyn dan 8 oed fod yng nghwmni oedolyn neu warcheidwad.
Yn y llyfrgell
Dewch â'ch cerdyn aelodaeth llyfrgell gyda chi bob tro oherwydd byddwch chi'n cael eich annog i ddefnyddio'r system hunan-wasanaeth.
Dim ond o bellter diogel o 2 fetr y bydd staff yn gallu darparu hyn a hyn o gymorth.
Bydd angen i bob plentyn dan 8 oed fod yng nghwmni oedolyn neu warcheidwad.
Defnyddiwch un o'n bagiau cotwm i gario'r llyfrau rydych chi eu heisiau ac, ar ôl gorffen, rhowch y bag yn y Blwch Cwarantin a ddarperir.