Cyfarwyddydau erthygl 4 

Defnyddir cyfarwyddydau a awdurdodir gan Erthygl 4 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 i ddileu rhai hawliau datblygu a ganiateir.

 

Mae rheolaethau tynnach ar waith o ran lefelau datblygu a ganiateir mewn ardaloedd cadwraeth o'u cymharu â mannau eraill, ond, mewn llawer o achosion, efallai na fydd hyd yn oed reolaethau o'r fath yn ddigonol i ddiogelu cymeriad arbennig yr ardal dan sylw, ac atal erydiad cynyddrannol ei chymeriad a'i golwg arbennig, yn enwedig lle mae nifer sylweddol o adeiladau heb eu rhestru yn cael eu defnyddio at ddefnydd preswyl.

Gall nifer o newidiadau bach, gyda'i gilydd – megis gosod deunyddiau modern priodol yn lle teils gwreiddiol y to, gosod ffenestri uPVC neu alwminiwm yn lle'r rhai traddodiadol, a dymchwel perthi neu waliau terfyn blaen i ddarparu parcio oddi ar y stryd – leihau ar gymeriad ‘arbennig’ yr ardal dan sylw. 

Ar hyn o bryd, mae Cyfarwyddydau Erthygl 4 wedi'u cyhoeddi mewn tair ardal gadwraeth, sef:

  • Cyfarwyddyd Erthygl 4(2) – Y Drenewydd, Rhymni (disodlwyd ym mis Chwefror 2015)
  • Cyfarwyddyd Erthygl 4(2) – Gardd-faestrefi Pont-y-waun, Crosskeys (mis Hydref 1995 – dygwyd ymlaen ym mis Ebrill 1996)
  • Cyfarwyddyd Erthygl 4(2) – Tref Rhymni (mis Mai 2004)
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am Gyfarwyddydau Erthygl 4, cysylltwch â'n Swyddog Cadwraeth a Dylunio ar 01443 866766.
Cysylltwch â ni