A oes angen caniatâd cynllunio arnaf? 

Mae cynllunio yn gallu ymddangos yn hynod anodd pan fyddwch chi'n newydd iddo.  Ewch i wefan Planning Portal Cymru, a fydd yn eich tywys chi trwy'r broses.

Awgrymiadau da o ran defnyddio’r Porth Cynllunio

Cam 1

Ewch i'r adran prosiectau cyffredin ar y Porth Cynllunio. Fe ddewch chi o hyd i esiamplau o brosiectau cyffredin, a’u canllawiau. Bydd hefyd yn rhoi gwybod a ydych chi wedi’ch diogelu gan hawliau datblygu a ganiateir, neu a oes angen caniatâd cynllunio arnoch chi.

Cam 2

A yw hawliau datblygu a ganiateir yn cwmpasu'r gwaith rydych chi'n ei gynnig? Mae hyn yn aml yn cynnwys mân newidiadau i'ch eiddo chi.

Cam 3

Os yw hawliau datblygu a ganiateir yn berthnasol i chi, penderfynwch a oes angen i chi wneud cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (sy'n ddewisol, waeth pa mor gryf y caiff ei argymell, a gallai effeithio ar werthiant eich eiddo chi).

Cam 4 

Os oes angen Caniatâd arnoch chi, yna gwnewch gais am ganiatâd cynllunio.  Os ydych chi angen help gyda hyn, rydyn ni'n cynnig gwasanaeth cyn gwneud cais cynllunio, sydd â’r nod o wneud y broses yn haws i chi.

Cam 5

A yw eich prosiect chi'n agored i Ardoll Seilwaith Cymunedol? I gael rhagor o wybodaeth am yr Ardoll a sut y gallai fod yn berthnasol i'ch prosiect chi, ewch i wefan yr Ardoll Seilwaith Cymunedol.

Cam 6

Oes angen i chi wneud cais am reoliadau adeiladu? Mae'n canolbwyntio ar yr ochr dechnegol, gan gynnwys sicrhau bod y rheoliadau adeiladu a diogelwch y cyhoedd yn cael eu cynnal. Mae angen caniatâd rheoli adeiladu ar y rhan fwyaf o geisiadau cynllunio.

Cam 7

Oes angen i chi wneud cais am Ganiatâd Draenio Cynaliadwy? Bydd pob datblygiad o fwy nag un tŷ, neu arwynebedd adeiladu o 100m2 neu fwy yn cael eu heffeithio.

Y gwasanaeth cyngor cyn gwneud cais cynllunio

Os ydych chi'n gwybod bod angen caniatâd cynllunio arnoch chi, ond hoffech chi gael cyngor penodol am eich prosiect chi, gallwch chi ddefnyddio ein gwasanaeth cyn gwneud cais cynllunio.

Ydych chi'n dal yn ansicr a oes angen caniatâd arnoch chi?

Os ydych chi'n dal yn ansicr a oes angen caniatâd cynllunio arnoch chi, gallwch chi wneud cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon, sef penderfyniad ffurfiol i bennu a oes angen caniatâd.  Mae rhagor o fanylion ar gael ar y Porth Cynllunio.

Gyda’r holl waith adeiladu, perchennog yr eiddo (neu’r tir) dan sylw sy’n gyfrifol am gydymffurfio â’r rheolau cynllunio a’r rheoliadau adeiladu perthnasol yn y pen draw. Nid yw’r awdurdod lleol yn rhoi cyngor anffurfiol ynglŷn ag a oes angen caniatâd cynllunio; cyfrifoldeb y perchennog yw pennu hyn.

Rhowch eich adborth o ran y wefan hon.