Pethau i'w hystyried cyn i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio

Mae'r adran hon yn rhoi sylw i'r canlynol:

  • Gwahanol fathau o geisiadau
  • Pethau i'w hystyried cyn i chi wneud cais
  • Gwybodaeth am faterion Rheoli Adeiladu a ffactorau eraill a allai effeithio ar eich cais

Gwahanol fathau o geisiadau

Mae gwahanol fathau o ffurflenni cais ac mae'n bwysig cyflwyno'r un gywir, fel arall gallai beri oedi i'ch prosiect adeiladu.

  • Deiliaid tai - Fe'i defnyddir ar gyfer prosiectau sy'n newid neu'n ehangu tŷ unigol, gan gynnwys gwaith o fewn ffin/gardd y tŷ, megis estyniadau, ystafelloedd haul a garejis.

  • Caniatâd cynllunio llawn - Fe'i defnyddir ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau, ac eithrio prosiectau deiliaid tai, megis adeiladu tŷ newydd neu newid defnydd.

  • Caniatâd cynllunio amlinellol - Fe'i defnyddir i wirio a yw graddfa a natur y prosiect adeiladu yn dderbyniol, cyn cyflwyno cynnig manwl. Ar ôl cymeradwyo'r cais amlinellol, bydd angen i chi wneud cais am y “materion a gedwir yn ôl”.

  • Materion a gedwir yn ôl - Os yw cais amlinellol wedi'i gymeradwyo, mae gennych dair blynedd i ddarparu'r manylion. Bydd hyn fel arfer yn cynnwys gwybodaeth am gynllun, mynediad, graddfa a golwg y datblygiad.

  • Caniatâd adeilad rhestredig - Fe'i defnyddir ar gyfer prosiectau ar adeiladau rhestredig.

  • Am ragor o wybodaeth, ewch i'r dudalen adeiladau rhestredig.

  • Caniatâd i arddangos hysbyseb - Fe'i defnyddir ar gyfer prosiectau sy'n arddangos hysbysebion neu arwyddion, megis arwyddion ffasgia ac arwyddion sy'n estyn allan.

  • Dileu/amrywio amodau - Fe'i defnyddir i ddileu neu amrywio amod a osodir ar ôl cymeradwyo caniatâd cynllunio.

  • Cyflawni amodau - Fei'i defnyddir lle mae amod ar ganiatâd cynllunio neu ganiatâd adeilad rhestredig yn mynnu rhagor o wybodaeth am agwedd benodol ar y prosiect na chafodd ei disgrifio yn y cais gwreiddiol.  Mae'n bosibl y bydd angen cyflwyno'r wybodaeth hon i'w chymeradwyo cyn y gall y gwaith ddechrau. Weithiau, mae'n rhaid ei chyflwyno ar amser penodol, naill ai cyn i'r gwaith ddechrau neu cyn y gellir defnyddio neu feddiannu'r datblygiad newydd. Darllenwch unrhyw amodau yn ofalus.

  • Cymeradwyaeth/Hysbysiadau ymlaen llaw - Fe'i defnyddir yn achos cynigion ar gyfer gwaith datblygu sy'n cynnwys telathrebu, dymchwel, amaethyddiaeth neu goedwigaeth. Rhoddir hysbysiad o'r datblygiadau hyn cyn i'r datblygiad ddigwydd.

  • Gorchmynion Cadw Coed - Fe'i defnyddir ar gyfer prosiectau adeiladu sy'n cynnwys coed neu waith ar goed, sydd wedi'u gwarchod gan Orchymyn Cadw Coed.

  • Hysbysiad o waith arfaethedig ar goed mewn ardal gadwraeth - Fe'i defnyddir ar gyfer gwaith ar goed mewn ardal gadwraeth lle mae'r gwaith yn effeithio ar goed o faint penodol.

  • Diwygiadau ansylweddol - Fe'i defnyddir wrth gymeradwyo caniatâd cynllunio ond lle mae angen mân newid.

  • Caniatâd ardal gadwraeth - Fe'i defnyddir ar gyfer gwaith dymchwel mewn ardal gadwraeth.

  • Am ragor o wybodaeth, ewch i'r adran ardaloedd cadwraeth.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o ganiatâd, ewch i'r Porth Cynllunio.

Pethau i'w hystyried cyn i chi wneud cais

Rheoli adeiladu

Mae'n debyg y bydd angen caniatâd rheoli adeiladu arnoch gan ei fod yn wahanol i ganiatâd cynllunio.

Mae'r rheoliadau o ran rheoli adeiladu yn gosod safonau ar gyfer dylunio ac adeiladu adeiladau i sicrhau diogelwch ac iechyd y bobl sy'n eu defnyddio. Mae cynllunio'n arwain y ffordd y mae ein trefi a'n cefn gwlad yn datblygu.

Ffordd hawdd o gofio'r gwahaniaeth yw bod Rheoli Adeiladu yn ymwneud â'r tu mewn i'r adeiladau ac mae Cynllunio'n ymwneud â'r tu allan a sut maent yn gweddu i'r ardal gyfagos.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'r dudalen rheoli adeiladu.

Datganiadau dylunio a mynediad

Bydd angen Datganiad Dylunio a Mynediad ar gyfer llawer o geisiadau cynllunio a cheisiadau ar gyfer caniatâd adeilad rhestredig sydd â goblygiadau o ran dylunio. Manylion pellach yn ein hadran datganiad dylunio a mynediad.

A fydd rhaid talu’r Ardoll Seilwaith Cymunedol ar gyfer eich project?

Mae’r Ardoll Seilwaith Cymunedol yn galluogi awdurdodau lleol i hawlio taliadau gan ddatblygwyr sy’n cyflawni projectau adeiladu newydd yn eu hardal. Defnyddir yr arian i dalu tuag at gostau’r seilwaith sydd ei angen i gynorthwyo twf, megis gwelliannau o ran ysgolion a thrafnidiaeth.

Nid oes rhaid talu’r ardoll seilwaith cymunedol ar gyfer pob datblygiad. Am ragor o fanylion ewch i'n hadran ceisiadau cynllunio sy'n destun Ardoll Seilwaith Cymunedol.

Chwiliadau cloddio glo

Dylid cyflwyno ‘Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Datblygiad’ gyda phob cais cynllunio lle y bo’n briodol. I gael gwybod a oes angen adroddiad o’r fath ar gyfer eich safle, ewch i wefan yr Awdurdod Glo. Os oes angen adroddiad arnoch, mae cyngor ar gael ar y wefan ar sut i fynd ati i’w gael.

Ar ôl cael yr adroddiad, dylech ystyried p’un a oes angen ‘Asesiad o’r Risgiau yn Sgîl Cloddio Glo’ arnoch, sef dogfen sy’n asesu effaith unrhyw waith cloddio glo blaenorol ar eich datblygiad, ac sy'n cynnwys unrhyw fesurau lliniaru priodol.

Ni allwn benderfynu ar eich cais nes eich bod wedi mynd i'r afael â'r materion hynny yn briodol.

Gall ffactorau eraill effeithio ar eich prosiect adeiladu

Hyd yn oed os rhoddir caniatâd cynllunio neu os yw'n dod o dan ddatblygu a ganiateir, mae'n bosibl y bydd angen caniatâd ychwanegol arnoch o hyd ar gyfer y gwaith rydych chi'n ei gynllunio.

Pwy sy'n berchen ar yr adeilad, y ffens neu'r tir?

Nid oes gennym gofnodion perchnogaeth tir, ond gallwch chwilio ar wefan y Gofrestrfa Tir.

Chwilio'r Gofrestrfa Tir

Oes gennych chi adeilad rhestredig?

Mae Adeilad Rhestredig yn adeilad, gwrthrych neu strwythur y datganir ei fod o bwysigrwydd cenedlaethol o ran diddordeb pensaernïol neu hanesyddol.

Gwirio a yw'ch eiddo'n adeilad rhestredig

Ydych chi'n byw mewn ardal gadwraeth?

Mae ardal gadwraeth yn ardal o bwysigrwydd amgylcheddol neu hanesyddol sy'n cael ei gwarchod gan y gyfraith.

Yn achos rhai mathau o waith, lle nad oes angen caniatâd y tu allan i ardal gadwraeth, mae'n bosibl y bydd angen caniatâd ar eu cyfer mewn ardal gadwraeth.

Gwirio a yw'ch eiddo mewn ardal gadwraeth

Ydych chi'n adeiladu Systemau Draenio Cynaliadwy?

O 7 Ionawr 2019, bydd yn ofynnol i holl ddatblygiadau newydd o fwy nag un tŷ, neu ble mae ardal yr adeiladu yn 100m2 neu'n fwy, gael draenio cynaliadwy er mwyn rheoli dŵr wyneb ar y safle.

Mae cymeradwyaeth y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy yn wahanol i ganiatâd cynllunio, ac ar wahân iddo, a rhaid ceisio'r ddau cyn dechrau unrhyw waith adeiladu.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalennau Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy

Ydy'r coed yn destun Gorchymyn Cadw Coed?

Mae Gorchymyn Cadw Coed (‘TPO’) wedi'i gynllunio i warchod coed penodol neu ardal benodol rhag difrod a dinistr.

Os yw coeden wedi'i gwarchod, bydd angen caniatâd arnoch i wneud gwaith arni.

Darllen am Orchmynion Cadw Coed

Oes gennych chi Wal Gydrannol?

Wal gydrannol yw lle mae rhan o'ch eiddo, neu'ch eiddo i gyd, wedi'i gysylltu â ffin tir sy'n eiddo i ddau (neu ragor) o berchnogion gwahanol.

Os ydych chi ar fin cychwyn prosiect adeiladu, mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r gwahanol berchnogion.

Gall perchnogion gytuno neu anghytuno â'r hyn rydych chi'n ei gynnig.

Darllen rhagor ar y Porth Cynllunio

Ydy'ch eiddo mewn Parth Llifogydd?

Rhennir parthau llifogydd yn ardaloedd ar sail tebygolrwydd llifogydd yn yr ardaloedd hynny.

Gwirio ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru

Pethau eraill a allai effeithio ar eich eiddo

Cyn i chi ddechrau'r gwaith, dylech hefyd wirio'r ffactorau canlynol:

  • Henebion
  • Cyfamodau a hawliau preifat
  • Safleoedd trwyddedig
  • Rhywogaethau a warchodir
  • Hawliau tramwy

Darllen rhagor am y rhain ar y Porth Cynllunio

Cysylltwch â ni