Beth yw draenio cynaliadwy?

Mae Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau) yn hyrwyddo dulliau gwell o reoli dŵr wyneb ffo ac yn mwyhau'r manteision ychwanegol y gellir eu cyflawni o gymharu â systemau draenio traddodiadol.   

Mae SDCau yn ceisio dynwared draenio naturiol, rheoli dŵr ffo wyneb ar neu'n agos at yr wyneb, ac agos at ei ffynhonnell. Mae SDCau yn ceisio rheoli cyfaint a graddfa'r dŵr ffo a darparu amrywiaeth o fanteision ychwanegol. Mae SDCau sydd wedi'u cynllunio'n dda a hawdd ei gynnal yn darparu amrywiaeth o fanteision pwysig ar gyfer yr amgylchedd lleol, y datblygiad a'r gymuned leol.

Astudiaethau Achos

Beth yw Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy?

Sefydlodd Atodlen 3 y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 Cyrff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy neu SDCau, o fewn Awdurdod Arweiniol Llifogydd Lleol y Cynghorau Sir. Mae'r Ddeddf yn rhoi cyfrifoldeb statudol i'r cyrff hynny ar gyfer cymeradwyo a mabwysiadu systemau draenio cymeradwy penodol.

Sefydlwyd y Cyrff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy i werthuso a chymeradwyo ceisiadau draenio ar gyfer datblygiadau newydd lle mae gwaith adeiladu yn effeithio ar ddraenio ac i fabwysiadu a chynnal systemau draenio dŵr wyneb yn unol â'r Ddeddf (http://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/2010/29/contents). Rhaid cynllunio cais draenio am gymeradwyaeth gan Gorff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy i gydymffurfio â rhifyn cyfredol y Safonau Cenedlaethol Gweinidogol.

Pam yw Systemau Draenio Cynaliadwy yn bwysig?

Mae'r gofyniad i ystyried Systemau Draenio Cynaliadwy ym mhob safle newydd ac wedi'i ailddatblygu ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn cael ei yrru gan lifogydd lleol presennol a chynyddol, mwy o lygredd i'n hafonydd, tirweddau naturiol gwael, bioamrywiaeth yn dirywio ac ansicrwydd o ran effaith y newid yn yr hinsawdd.

Yn arbennig, mae systemau pibellog traddodiadol sy'n casglu dŵr ffo o arwynebau palmantog caled megis toeau, ffyrdd a meysydd parcio yn anghynaladwy ac maent wedi cyfrannu at fwy o berygl o lifogydd a llygredd drwy'r canlynol:

  • Cynyddu cyfaint a chyfradd y dŵr wyneb sy'n cael ei ollwng i gwrs dŵr derbyn ac felly cynyddu'r perygl o lifogydd afonol;
  • Gorlifo yn ystod glawiad mwy o faint, gyda dŵr yn methu â gollwng i'r system neu'n dod i'r amlwg drwy dyllau a gylïau mewn ardaloedd ar lun is ac felly'n achosi llifogydd glaw lleol;
  • Rhwystrau rhannol neu lawn a achosir gan waddodi, malurion neu bibellau'n dymchwel na fydd yn cael eu sylwi nes bydd glaw mawr yn achosi llifogydd mewn ardaloedd i fyny'r afon;
  • Fawr ddim trin dŵr wyneb ffo, yn enwedig o fannau ar gyfer cerbydau, a thrwy hynny'n cyfleu pob llygrydd i'r amgylchedd naturiol;
  • Rhyddhad o fwy o dŵr wyneb ffo i garthffosydd cyfun neu weithfeydd trin dŵr gwastraff, gan arwain at ryddhad mwy rheolaidd o ddŵr gwastraff i'r amgylchedd dŵr drwy'r carthffosydd cyfun gorlif neu ddiffyg capasiti yng ngweithfeydd trin dŵr gwastraff.

Mae maint trefoli ac agwedd cymdeithas tuag at reoli dŵr wyneb yn gwaethygu'r materion sydd eisoes yn bodoli.  Mae'n hanfodol felly bod unrhyw ddatblygiad newydd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, yn ymgorffori egwyddorion draenio cynaliadwy. Bydd hyn yn helpu i newid agweddau tuag at fyw gyda dŵr a lliniaru effeithiau trefoli a thrwy hynny atal dirywiad pellach.

Mwy o wybodaeth am Gyrff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy

Cysylltwch â ni