Mabwysiadu ffordd
Beth yw ffordd sydd wedi’i mabwysiadu?
Mae ffordd sydd wedi’i mabwysiadu’n ffordd a gaiff ei chynnal a’i chadw ar bwrs y wlad. ‘Mabwysiadu ffordd’ yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio sefyllfa lle mae’r cyngor yn dod yn berchen ar ‘stryd breifat’.
Beth yw stryd breifat?
‘Stryd breifat’ yw ffordd na chaiff ei chynnal a’i chadw ar bwrs y wlad. Mae hynny’n golygu nad oes unrhyw reidrwydd arnom fel awdurdod priffyrdd i atgyweirio’r stryd na’i glanhau, er y gallai’r ffordd fod yn hawl tramwy cyhoeddus y gallai cyfraith priffyrdd a thraffig fod yn berthnasol iddi.
Sut y mae ffordd yn cael ei mabwysiadu?
Fel rheol, caiff ffyrdd newydd sydd wedi’u creu yn unol â’n canllawiau eu mabwysiadu drwy gytundeb rhwng y datblygwr a ni dan adran 38 Deddf Priffyrdd 1980.
Fel rheol, ni fydd ffyrdd sy’n bodoli eisoes yn cael eu mabwysiadu oni bai bod eu perchnogion yn sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau cyfredol. Er enghraifft, gallai’r ffordd:
- fod heb balmant
- bod heb gyrbau, llwybrau troed, ffosydd dŵr wyneb, cwteri a goleuadau neu unrhyw un o’r nodweddion hyn
- bod ag wyneb sydd, fwy na thebyg, mewn cyflwr gwael.
Dan ddarpariaethau adrannau 205 i 228 Deddf Priffyrdd 1980, gallwn benderfynu codi safon stryd breifat drwy:
- ddarparu unrhyw rai o’r nodweddion coll neu bob un ohonynt, neu
- wella safon unrhyw nodweddion sy’n bodoli eisoes ar draul y perchennog.
Mae’r weithdrefn hon yn ein galluogi i fabwysiadu’r stryd fel priffordd y gellir ei chynnal a’i chadw ar bwrs y wlad, pan fydd y gwaith angenrheidiol wedi’i gwblhau.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm gofal cwsmer yr adran briffyrdd.