Mega Drive

Trefnir y prosiect Mega Drive gan ein Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd ac fe'i ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r cynllun diogelwch ar y ffyrdd wedi'i anelu at bobl 16+ oed sydd heb eto wedi gyrru er mwyn eu haddysgu sut i fod yn ddefnyddwyr car cyfrifol, boed yn deithiwr neu'n yrrwr.

Cynigir gwers blasu gyrru 15 munud i'r myfyrwyr er mwyn iddynt ddod yn gyfarwydd â gweithredu car fel rhan o'r digwyddiad. Mae hyn yn helpu i'w paratoi ar gyfer gwersi gyrru yn y dyfodol ac yn aml dyma yw’r tro cyntaf i fyfyrwyr fod yn y sedd yrru.

Mae nifer o sefydliadau'n cymryd rhan yn y digwyddiad ac yn addysgu'r myfyrwyr am ddiogelwch ceir a beth i'w wneud mewn sefyllfaoedd brys.

  • Mae gwasanaeth Cymorth Ieuenctid ar gyfer Cyffuriau ac Alcohol yn sôn am beryglon gyrru tra o dan ddylanwad cyffuriau a'r canlyniadau difrifol a allai fod yn ganlyniad i hynny.

  • Mae Heddlu Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynnal sgyrsiau ar ‘Y Pump Angheuol’, sef pum prif achos gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd yng Nghymru. Y rhain yw goryrru, alcohol, cyffuriau, ffonau symudol a gwregysau diogelwch. Mae'r Heddlu yn gwneud myfyrwyr yn ymwybodol o'r canlyniadau cyfreithiol os ydych yn ymddwyn yn anghyfreithlon mewn cerbyd, tra bod y Gwasanaeth Tân yn cwmpasu canlyniadau emosiynol o weithredoedd person mewn car.

  • Mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn rhoi cyflwyniad ‘Yr Effaith Domino’. Mae'r offeryn addysgol anodd hwn yn fodd o addysgu gyrwyr, yn ogystal â theithwyr am yr effeithiau y gall un gwrthdrawiad ar y ffordd eu cael ar lawer o fywydau.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd.

Privacy Notice

Megadrive ysbysiad preifatrwydd (PDF)

I gael manylion am brosiectau a gwasanaethau allweddol eraill ewch i’n hadran rhaglen diogelwch ar y ffyrdd i blant a phobl ifanc.

Cysylltwch â ni