Safonau Cenedlaethol Hyfforddiant Beicio

Wedi'i ariannu gan Gynulliad Cymru, mae'r cynllun hwn wedi'i anelu at ddisgyblion blwyddyn 6 ac mae’n darparu hyfforddiant beicio lefel 1 a 2 lle mae disgyblion yn dysgu rheoli a meistroli eu beiciau.

  • Mae Lefel 1 yn cymryd lle mewn amgylchedd i ffwrdd o geir neu draffig - fel arfer mewn maes chwarae neu faes parcio caeedig.

  • Cynhelir Lefel 2 ar strydoedd lleol, gan roi profiad beicio go iawn i'r hyfforddeion, lle cânt eu dysgu sut i ddelio â thraffig ar deithiau byr megis beicio i'r ysgol neu'r siopau lleol.

Rydym bellach yn hyfforddi Lefel 3 gyda Blwyddyn 9 mewn ysgolion uwchradd lle mae hyfforddeion yn ymdrin â ffyrdd a sefyllfaoedd traffig mwy heriol, beicio drwy oleuadau traffig a chylchfannau.

Fe'i cyflwynir mewn grwpiau o hyd at 3 - 6 felly gellir ei deilwra i anghenion hyfforddi unigol, megis teithio i’r ysgol ac yn y pen draw i’r gwaith. Mae hyfforddiant Lefel 3 yn ymdrin â pheryglon, gan wneud asesiadau risg ‘ar y pryd’ a chynllunio llwybrau ar gyfer beicio mwy diogel. Unwaith y byddant wedi cwblhau Lefel 3, dylent allu beicio bron i unrhyw le.

Ein hamcan yw annog mwy o bobl i feicio a'u dysgu i fod yn feicwyr diogel yn ddiweddarach.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd.

I gael manylion am brosiectau a gwasanaethau allweddol eraill  ewch i'n hadran rhaglen diogelwch ar y ffyrdd i blant a phobl ifanc.

Cysylltwch â ni