Trawsnewid System Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) 

Cod ADY  

Pasiwyd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 12 Rhagfyr 2017 a daeth yn Ddeddf ar 24 Ionawr 2018 ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol.  Bydd hyn yn creu'r fframwaith deddfwriaethol i wella cynllunio a darpariaeth ddysgu ychwanegol, drwy ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn nodi anghenion yn gynnar, rhoi cymorth effeithiol ar waith a monitro ac addasu ymyriadau i sicrhau eu bod yn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir. 

Cefnogir y Ddeddf gan:  

  • rheoliadau - deddfwriaeth eilaidd pan fo angen rhagor o fanylion
  • Cod ADY - canllawiau statudol a gofynion gorfodol i helpu pobl a sefydliadau i weithio o fewn y gyfraith.

Bydd dyletswydd ar awdurdodau lleol, lleoliadau blynyddoedd cynnar, ysgolion a darparwyr addysg bellach i benderfynu a oes gan blant a phobl ifanc 0-25 oed anghenion dysgu ychwanegol (ADY), sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDY).

Os yw ysgol neu leoliad yn penderfynu bod gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol (ADY), rhaid paratoi Cynllun Datblygu Unigol (CDU) ar gyfer y plentyn neu'r person ifanc hwnnw.  

Pan nodir anghenion sy'n dod i'r amlwg, yn arbennig mewn plant ifanc iawn, nid yw hyn o reidrwydd yn gofyn am nodi angen dysgu ychwanegol ond efallai y bydd angen ymyrraeth gynnar arnynt.

Apelio

Os nad ydych yn hapus â phenderfyniad a wnaed ynghylch ADY neu CDU gan ysgol, gallwch chi ofyn i ni adolygu neu ailystyried y penderfyniad.

Mae gan bob plentyn, eu rhieni neu ofalyddion a phobl ifanc hyd at 25 oed yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Addysg yn erbyn penderfyniadau a wneir gan awdurdod lleol neu sefydliad addysg bellach mewn perthynas â'u ADY neu eu CDU.

Tribiwnlys Addysg Cymrun

Mae Tribiwnlys Addysg Cymru yn gwneud penderfyniadau ar apeliadau ynghylch anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion addysgol arbennig, a rhai ar hawliadau’n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion.

Rhaid anfon pob apêl a hawliad i Dribiwnlys Addysg Cymru (TAC). Gallwn dderbyn apeliadau a hawliadau trwy’r post ac e-bost.

Mae’r cyfeiriad a’r manylion cyswllt ar gyfer TAC i’w gweld isod.

Triwbiwnlys Addysg Cymru
Uned Tribiwnlysoedd Cymru
Blwch SP 100
Llandrindod
LD1 9BW
E-bost: tribiwnlysaddysg@llyw.cymru neu tribunal.Enquiries@llyw.cymru
Rhif ffôn:0300 025 9800

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Statudol Dysgu, Addysg a Chynhwysiant.