Apeliadau derbyn i ysgolion

Dyrennir pob lle ysgol yn unol â’r meini prawf derbyn i ysgolion.

Ym mwyafrif yr achosion, caiff plant gynnig yn ysgol ddewis y rhieni. Ond os na chaiff eich plentyn gynnig lle bydd angen i chi benderfynu ar ba un a ydych yn fodlon derbyn lle mewn ysgol wahanol ai peidio, neu a ydych am apelio.

Os dewiswch apelio, bydd Panel Apeliadau Annibynnol yn clywed eich apêl. Bydd y panel hwn yn barnu a yw’r ysgol yn llawn ac, os felly, p’un a yw cais y rhieni’n ddigon cryf i gynnig lle i blentyn. Nid oes gan ddisgyblion oedran meithrin hawl i apelio.

Apeliadau Canllawiau i Rieni (PDF)

Codau derbyniadau ac apeliadau ysgolion

Mae 'cod derbyn i Ysgol’ a’r 'cod apeliadau derbyn i ysgol' wedi cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru ac yn esbonio canllaw statudol y mae’n rhaid eu dilyn wrth ddosbarthu lleoedd ysgol yn ysgolion cynradd, canol ac uwchradd.

Sut i apelio

Rhaid apelio’n ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod calendr o gael gwybod am y penderfyniad i beidio â derbyn eich plentyn i’r ysgol ddewis.

Apelio Nawr
 
Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Fel arall, gallwch e-bost derbiniauysgol@caerffili.gov.uk.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Caiff eich apêl ei chyfeirio at ein hadran gyfreithiol a fydd yn trefnu i’r apêl gael ei chlywed gan Banel Apeliadau Annibynnol gan nodi amser a lle i’r gwrandawiad.

Cewch gyfle i fynd i’r gwrandawiad a gwneud sylwadau (llafar a/neu ysgrifenedig). Gall asiantaethau fel SNAP Cymru ac ACE roi cymorth i rieni wrth apelio.

Cofiwch:

  • Nid oes yn rhaid i rieni fynd i gyfarfod yr apêl ac, yn hytrach, gallant adael i’r apêl gael ei hystyried ar ddatganiad ysgrifenedig
  • Os nad ydych yn mynd i’r cyfarfod, caiff yr apêl ei phenderfynu arni gyda’r wybodaeth sydd ar gael
  • Cewch o leiaf 14 diwrnod (o ddyddiad anfon y llythyr) o rybudd ysgrifenedig o gyfarfod y panel apelio
  • Mae croeso i chi ddod â ffrind i’r cyfarfod, neu gael eich cynrychioli gan gyfreithiwr Os cewch eich cynrychioli gan gyfreithiwr, rhaid i chi roi gwybod i ni am hyn cyn y gwrandawiad
  • Os yw’r apêl yn erbyn penderfyniadau corff llywodraethu ysgol a gynorthwyir yn wirfoddol neu ysgol sefydledig, bydd panel apeliadau arall yn ei chlywed. I gael gwybodaeth am yr apeliadau hyn, cysylltwch â’r ysgol.
  • Mae cyfyngiadau ar bwerau'r panel apeliadau i ganiatáu apeliadau pan gaiff plentyn ei wrthod gan ysgol pan fo deddfwriaeth i’w chael ynghylch maint dosbarthiadau babanod. Ni fydd yn ystyried ail gais am le onid oes newid mawr yn eich amgylchiadau (y bydd angen eu profi).