Presenoldeb yn yr ysgol

Rhaid i chi sicrhau bod eich plentyn yn cael addysg llawn amser sy’n diwallu ei anghenion (e.e. os oes ganddynt anghenion addysgol arbennig). Gallwch anfon eich plentyn i ysgol neu ei addysgu eich hun.

Rhaid i blant gael addysg rhwng y tymor ysgol ar ôl eu pen-blwydd yn 5 oed a’r dydd Gwener diwethaf ym mis Mehefin y flwyddyn ysgol y byddant yn troi’n 16 oed.

Os yw’ch plentyn ar goll o’r ysgol yn annisgwyl a’n bod ni’n credu nad ydych yn rhoi addysg iddo gartref, bydd yr ysgol neu swyddog lles addysg yn cysylltu â chi. Bydd yn cysylltu â chi hyd yn oed os yw’ch plentyn ond ar goll am ddiwrnod.

Gallwch gael eich erlyn os na fyddwch yn rhoi addysg i’ch plentyn. Byddwch fel arfer yn cael rhybudd neu gynnig cymorth gan y cyngor lleol yn gyntaf.

Pryd mae’ch plentyn yn gallu colli ysgol

Pryd y gall eich plentyn fethu ysgolNi all eich plentyn fethu’r ysgol, ond am pan fydd:

  • yn rhy sâl i fynd i’r ysgol
  • gennych ganiatâd gan yr ysgol ymlaen llaw

Mae cymorth ychwanegol ar gael os na all eich plentyn fynd i’r ysgol am gyfnod hir oherwydd problem iechyd.

Diffyg presenoldeb a gwyliau yn ystod tymor yr ysgol

Dylai apwyntiadau â meddyg, deintydd neu eraill gael eu trefnu y tu allan i oriau ysgol, ar y penwythnos neu yn ystod gwyliau ysgol er mwyn sicrhau nas amherir ar addysg eich plentyn na'r ysgol. 

Ni ddylech ddisgwyl i ysgol eich plentyn gytuno i’ch plentyn fynd ar wyliau yn ystod y tymor, ac os gwnewch ei dynnu o’r ysgol heb ganiatâd gallech gael hysbysiad cosb benodedig.

Triwantiaeth

Os ydych yn cael trafferth sicrhau bod eich plentyn yn mynd i’r ysgol, gallwch gael help a chyngor. Ewch i'r adran ar driwantiaeth am fanylion.

Cysylltwch â ni