Addysgu eich plentyn gartref

Rydym yn cefnogi hawl rhieni i addysgu eu plant gartref.

Os ydych am addysgu’ch plentyn gartref dylech roi gwybod i bennaeth eich ysgol, a fydd yn rhoi gwybod i ni. Os nad yw’ch plentyn erioed wedi mynd i’r ysgol, dylech roi gwybod i ni o'ch penderfyniad i addysgu'ch plentyn gartref.

Polisi Addysg Ddewisol yn y Cartref (PDF)

Cyfrifoldebau rhieni

Nodir eich cyfrifoldebau fel rhiant yn glir yn Adran 7 Deddf Addysg 1996 sy’n nodi:
Bydd rhiant pob plentyn o oedran ysgol gorfodol yn sicrhau y caiff addysg llawn amser effeithlon sy’n addas o ran ei -

(a) oedran a gallu
(b) unrhyw anghenion addysgol arbennig a allai fod ganddo, naill ai drwy fynychu’r ysgol yn rheolaidd neu fel arall
Nid oes rheol ynghylch beth yw addysg addas, ond dylai baratoi eich plentyn at fywyd mewn cymdeithas fodern a chaniatáu eich plentyn i gyflawni ei botensial llawn. Dylai gynnig:

  • cwricwlwm eang a chytbwys
  • Saesneg, mathemateg a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh)
  • cyfleoedd o ran datblygiad corfforol, cymdeithasol, ysbrydol a diwylliannol.

Mae modd dehongli “llawn amser” mewn ffyrdd gwahanol, gan fod addysg plentyn gartref yn aml yn addysg unigol. Cynigiwyd o leiaf dair awr y diwrnod. Dylech ystyried yr angen i unrhyw berson ifanc gael cymwysterau ffurfiol i gyflawni unrhyw swydd yn y dyfodol yn ei fywyd.

Plant â Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig

Pan fydd gan blentyn anghenion addysgol arbennig, mae gennym ddyletswydd i gyflawni asesiad o anghenion plentyn a, lle y bo’n briodol, paratoi ‘datganiad anghenion addysgol arbennig' sy’n nodi sut y caiff yr anghenion hyn eu diwallu (Deddf Addysg 1996, Adran 23). Rhaid i ni sicrhau bod y ddarpariaeth addysg arbennig yn y datganiad yn cael ei wneud ar gyfer y plentyn, onid ydych wedi gwneud trefniadau addas (Deddf Addysg 1996, Adran 325).
 

Cysylltwch â ni