Taliad di-dâl ac ar-lein am brydau ysgol

Yn dibynnu ar ba ysgol y mae'ch plentyn yn ei fynychu, rydym yn cynnig gwahanol opsiynau i dalu am brydau ysgol.

Systemau cardiau ar-lein a heb arian parod

Mae rhai ysgolion cyfun yn gweithredu system dalu fiometrig a cherdyn di- arian: gwiriwch gyda’ch ysgol gyfun leol.

Mae hefyd modd i bob ysgol gymryd taliadau am brydau ysgol ar-lein ac mae rhagor o fanylion ar gael yn y ddogfen isod.

Ychwanegu arian ar-lein

Manteision systemau talu â cherdyn ar-lein a heb arian parod

  • Datrysiad talu ar-lein hawdd sy'n eich galluogi chi i reoli a thalu am brydau eich plentyn drwy'r wefan ganlynol: https://upay.co.uk/app/;
  • Y gallu i weld cyfriflenni a gwirio balansau.
  • Ap ffôn clyfar – lawrlwythwch yr ap UPAY i’ch ffôn clyfar a gwneud daliadau am fwyd ysgol eich plentyn. Cael yr Ap o'r Apple App Store. Cael yr Ap o siop Google Play
  • Ychwanegu arian yn awtomatig – Defnyddiwch y nodwedd hon i ffurfweddu cyfrif eich plentyn fel bod swm o arian wedi'i osod ymlaen llaw yn cael ei ychwanegu'n awtomatig at gyfrif eich plentyn bob tro y bydd y balans yn cyrraedd isafswm wedi'i osod ymlaen llaw;
  • Dim gwahaniaeth amlwg rhwng disgyblion sy'n talu am brydau bwyd a disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim;
  • Mae manylion pryd bwyd eich plentyn yn cael eu cofnodi bob dydd, sy'n golygu y gallwch chi gadw golwg ar yr hyn y mae eich plentyn yn ei fwyta.

Prydau ysgol am ddim ar systemau talu â cherdyn ar-lein a heb arian

Mae'r system cerdyn ar-lein a heb arian yn gweithio yr un peth i bob plentyn p'un a yw'n talu neu'n cael pryd ysgol am ddim. Bydd y swm sy’n cael ei ddyrannu ar gyfer y pryd ysgol am ddim yn cael ei ychwanegu'n awtomatig i'r system.

Cysylltwch â ni