Llywodraethwyr ysgol

Mae dod yn llywodraethwr ysgol yn un o'r ffyrdd pwysicaf i helpu eich ysgol leol.

Mae llywodraethwr ysgol yn gyfrifol am sicrhau bod yr ysgol yn darparu addysg o safon uchel. Ynghyd â'r Pennaeth, sydd yn gyfrifol am reoli'r ysgol o ddydd i ddydd, maen nhw'n sefydlu amcanion a pholisïau'r ysgol yn ogystal â bod yn gyfrifol am nifer o ddyletswyddau eraill gan gynnwys penderfynu sut mae cyllid yr ysgol yn cael ei wario, penodi a chael gwared â staff, a chreu polisi ar gwricwlwm yr ysgol. 

Pe byddech yn dod yn llywodraethwr ysgol, rhoddir cyngor, cefnogaeth a hyfforddiant i gyflawni'r rôl gan ein Gwasanaeth Cefnogi a Datblygu Llywodraethwyr, a gwneir llawer o'r gwaith mewn gweithgorau neu is-bwyllgorau lle gallwch rannu eich profiad gydag aelodau eraill.

Tymor swyddfa llywodraethwr fel arfer yw pedair blynedd. Mae bod yn llywodraethwr yn anodd ond mae'n rhoi boddhad ac yn ffordd dda o gynnig rhywbeth i'ch cymuned leol. Nid oes yn rhaid i chi fod yn rhiant i blentyn yn yr ysgol, ond os ydych chi, byddwch hefyd yn gwybod eich bod yn dylanwadu'n uniongyrchol ar ansawdd addysg eich plentyn.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am ddod yn llywodraethwr a beth mae'n ei olygu cysylltwch â'r  Gwasanaeth Cefnogi a Datblygu Llywodraethwyr.

Cysylltwch â ni