Cymorth synhwyraidd a chymorth cyfathrebu
Mae’r gwasanaeth cymorth synhwyraidd a chymorth cyfathrebu’n helpu plant sy’n fyddar, â nam ar y golwg, yn dioddef anawsterau cyfathrebu a rhyngweithio neu nam aml-synhwyrol.
Caiff ei gynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar ran awdurdodau cyfagos Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Sir Fynwy, ac mae'r gwasanaeth yn cyflogi timau arbenigol i gynnig help a chymorth.
Tîm Ymyrraeth Cyfathrebu (sef ComIT - Communication Intervention Team)
Mae ComIT yn wasanaeth ysgol gyfan i helpu plant a phobl ifanc 3 i 13 oed sydd â diagnosis clinigol o anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu sy'n ddifrifol effeithio ar ddysgu'r plentyn.
Gall ComIT weithio'n unigol neu gyda grwpiau o blant - nid oes rhaid i blentyn fod â datganiad o anghenion addysgol arbennig i gael mynediad at y gwasanaeth - ac mae'n darparu:
- cyngor a gwybodaeth ar agweddau ar leferydd ac iaith;
- atebion, adnoddau a strategaethau trwy waith unigol a grŵp;
- cysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill, yn cynnwys therapi lleferydd;
- hyfforddi ar gyfer staff ysgol i greu capasiti;
Bydd ceisiadau am ComIT i weithio gyda'r plentyn yn dod o awdurdod lleol, ewch i wefan ComIT am fwy o wybodaeth.
Gwasanaeth nam ar y clyw
Nod y gwasanaeth nam ar y clyw yw helpu plant a phobl ifanc a nodir bod arnynt nam ar y clyw i wireddu eu potensial a chael sgiliau byw.
Mae’r gwasanaeth yn cynghori ysgolion ynghylch sgiliau cyfathrebu, datblygu iaith a thrin plant â nam ar y clyw ac mae’n cynnig canllaw a chymorth i’r teuluoedd.
Mae’n bosibl y caiff plant eu hatgyfeirio gan y gwasanaeth iechyd neu gan ysgolion sy’n bryderus ynghylch dysg plentyn.
Wedi’r atgyfeirio, bydd un o’r tîm cynghori’n cynnig ymweliad yn y cartref â rhieni ac yna’n mynd i’r ysgol i weld y disgybl a phenderfynu pa gymorth sy’n briodol.
Gall y gwasanaeth hefyd gynnig cymorthyddion radio a systemau chwyddo sain maes pan yw’n addas.
E-bost: his@torfaen.gov.uk
Gwasanaeth Nam ar y Golwg
Mae Gwasanaeth Nam ar y Golwg Gwent yn cefnogi plant a phobl ifanc sydd â nam ar y golwg neu nam aml-synhwyrol i gyflawni eu potensial yn eu hysgolion lleol, ochr yn ochr â brodyr a chwiorydd a ffrindiau.
Cyflwynir rhaglenni cyn ysgol mewn lleoliadau cyn ysgol, yng nghanolfan Gwasanaeth Nam ar y Golwg Gwent neu yn y cartref.
Mae'r gwasanaeth yn croesawu ymholiadau ac atgyfeiriadau oddi wrth unrhyw un sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc ac y mae’n pryderu ynghylch bod arno nam ar y golwg neu ar fwy nag un synnwyr.
Pan dderbynnir cais, bydd un o arbenigwyr yn y tîm yn asesu anghenion y plentyn ac yn trafod y canlyniadau gyda'r rhieni a gweithwyr proffesiynol addysg a meddygol i weld a oes unrhyw bryderon neu anghenion ychwanegol.
Yna gwneir penderfyniad ynghylch a oes angen cymorth, a fydd yn amrywio yn ôl anghenion pob plentyn, yn amrywio o gymorth wythnosol i gymorth ystafell ddosbarth llawn amser ar gyfer plentyn sy'n defnyddio Braille yn yr ysgol.
Mae Gwasanaeth Nam ar y Golwg Gwent yn cynnig:
- help a chyngor o enedigaeth
- grŵp wythnosol ar gyfer plant cyn-ysgol
- cyswllt anffurfiol ar gyfer rhieni a gofalwyr i helpu i liniaru arwahanrwydd
- cyngor ar leoliadau addysgol
- hyfforddiant symudedd a thywyswyr sy’n gweld
- darparu a chynnal a chadw cyfarpar arbenigol
- cyswllt â sefydliadau statudol a gwirfoddol eraill
- gosod amcanion dysgu realistig a chyraeddadwy
- asesiad o gryfderau ac anghenion unigol y plant
- cysylltiadau ag asiantaethau eraill
- cymorth ysgol ar gyfer y plentyn neu berson ifanc
- cyfleoedd i blant a phobl ifanc gael cysylltiad cymdeithasol gydag eraill sydd ag anghenion tebyg
- gweithgareddau chwaraeon a hamdden, cynlluniau gwyliau, digwyddiadau cerddoriaeth a chymdeithasol
- clybiau ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau
- diwrnodau agored a chyfarfodydd rhieni/gofalwyr
Darllenwch fwy am Wasanaeth Nam ar y Golwg Gwent
e-bost: gwentvisualimpairmentservice@caerphilly.gov.uk
Manylion Cyswllt
Gwasanaeth Cymorth y Synhwyraidd a Chyfathrebu, Tŷ Aberhonddu, William Brown Close, Parc Diwydiannol Llantarnam, Cwmbrân NP44 3AB
Ebost: comit@torfaen.gov.uk neu ffoniwch (01633) 648888.