Byw yn eich cartref eich hun - dewisiadau eraill

Byw yn eich cartref eich hun - dewisiadau eraill

Mae symud i gartref gofal preswyl neu gartref nyrsio yn benderfyniad pwysig a nod y dudalen hon yw eich helpu i ddeall rhai o'r materion i'w hystyried.

Gwahaniaethau rhwng cartrefi gofal preswyl a chartrefi nyrsio

Y gwahaniaeth mwyaf yw’r math o ofal a gynigir ganddynt. Mae cartref gofal preswyl yn darparu llety a phrydau, gweithgareddau hamdden a gofal personol. Mae cartref nyrsio yn debyg iawn i gartref gofal preswyl, ond bod rhaid iddo hefyd gael nyrsys cymwys yn gweithio ar y safle.

Pam dewis gofal preswyl neu nyrsio?

Mae’n bosib eich bod yn ei chael yn anodd gofalu amdanoch eich hun yn eich cartref, oherwydd salwch diweddar efallai, neu am eich bod yn dod yn fwy a mwy bregus. Mae nifer o wahanol wasanaethau a allai wneud eich bywyd yn haws. Mae gofal preswyl yn un posibilrwydd; mae gwasanaethau eraill yn cynnwys gofal yn y cartref, gwasanaethau dydd, gwasanaeth pryd ar glud, gwneud addasiadau i’r cartref a darparu cymhorthion byw bob dydd, y gallant oll eich helpu i barhau i fyw yn annibynnol.

Asesu eich anghenion

Nid yw gwneud y penderfyniad i symud i gartref preswyl yn hawdd, yn enwedig os ydych yn sâl neu mewn profedigaeth. Os hoffech i ni eich helpu cysylltwch â’r tim. Byddwn ni’n trefnu cynnal asesiad o anghenion i ganfod a yw gofal preswyl yn addas i chi a pha wasanaethau eraill sydd ar gael.

Efallai y byddwch am ofyn i ffrind neu berthynas fod yn bresennol yn yr asesiad i’ch helpu i esbonio'r sefyllfa.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr holl gartrefi preswyl a nyrsio yn y fwrdeistref, efallai yr hoffech edrych ar y wefan Good Care Guide. Mae’r Good Care Guide yn fforwm annibynnol a luniwyd i alluogi pobl i ganfod, sgorio ac adolygu lleoliadau sy’n cynnig gofal i blant a phobl mewn oed ledled Prydain. 

Talu am ofal preswyl a gofal nyrsio

Os bydd angen i chi gael gofal preswyl neu ofal nyrsio, mae’r Ddeddf Cymorth Gwladol yn mynnu eich bod yn talu rhywfaint tuag at gost eich llety. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein tudalen ‘Talu am Ofal’. Paying for Care web page

Dewisiadau eraill

Cysylltwch â ni