Rheoli’ch materion ariannol personol

Gall ein Tîm Arian ac Eiddo Cleientiaid wneud cais i fod yn ddirprwy a/neu’n benodai i unigolyn. Mae dirprwyaeth a phenodeiaeth yn ymwneud â delio ag arian rhywun arall. Os caiff hyn ei ddyfarnu, cawn incwm yr unigolyn, a gwnawn drefniadau i dalu eu biliau ar eu rhan. E.e. Nwy, trydan, dŵr, biliau ffôn, ffioedd preswyl ac ati.

Fel dirprwy, a chan bob amser weithredu er budd yr unigolion, gallwn glirio cynnwys ei eiddo, gwaredu’r denantiaeth neu ei gwerthu ar eu rhan a buddsoddi unrhyw asedau cyfalaf sy’n perthyn iddynt.

Pwy all gael y cymorth hwn?

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i unigolion sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain (boed yn rhai y maen nhw’n berchen arnynt neu’n eu rhentu yn y gymuned), mewn llety â chymorth neu’n byw mewn cartref preswyl neu nyrsio. Waeth beth fo’r trefniadau byw, rhaid bodloni’r meini prawf canlynol i gael y gwasanaeth hwn: -

  • Rhaid bod yr unigolyn yn hysbys i’n hadran gwasanaethau cymdeithasol
  • Rhaid i’r unigolyn gael ei ystyried yn ‘feddyliol analluog’ (drwy farn feddygol ysgrifenedig) o reoli ei faterion ariannol a’i eiddo
  • Does neb arall sy’n addas neu’n gallu bod yn benodai neu’n ddirprwy llys, fel perthynas, ffrind, cyfreithiwr. 

Sut byddai’r unigolyn yn cael gafael ar ei arian?

Mae modd gwneud trefniadau iddo/iddi gael gafael ar arian personol drwy:

  • Gyfrif banc sylfaenol drwy ddefnyddio cerdyn a rhif PIN
  • Aelod o staff e.e. rheolwr/wraig gofal neu weithiwr/wraig cymorth yn casglu arian parod ar ei ran 

Sut i gyflwyno cais 

Os yw’r unigolyn priodol yn bodloni’r meini prawf a nodir uchod, a’ch bod chi’n meddwl y gallwn helpu, ffoniwch y Tîm Gwybodaeth, Cynghorion a Chymorth.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor am ddirprwyaeth neu benodeiaeth cysylltwch â’r Tîm Arian ac Eiddo Cleientiaid ar 01443 864640 neu cf&pt@caerphilly.gov.uk

Cysylltwch â ni