Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Tanysgrifio
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi a hyfforddiant
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Canolfannau Hamdden
    • Taliadau Cymorth i Ofalwyr Di-dâl
    • Cynllun Cymorth Costau Byw
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Etholiadau Lleol 2022
    • Councillors and committees
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
A allaf helpu?
Argyfwng Wcráin : Mae'r manylion am sut i gynnig cymorth, a ble i gael gwybodaeth a chyngor, ar gael ar ein tudalen we Cymorth i Wcráin.
  • Preswylydd    Oedolion a phobl ifanc    Gwasanaethau dydd ar gyfer pobl hŷn    Cwestiynau cyffredin

Cwestiynau cyffredin

Dylai aelod o fy nheulu fod wedi cychwyn mewn canolfan ddydd ym mis Medi, felly, pam nad ydyn nhw ar agor? 

Mae'r gwasanaethau dydd yn ailagor yn raddol. Mae Timau Asesu a Rheoli Gofal yn blaenoriaethu'r unigolion sy'n cael mynediad at y gwasanaeth. Mae COVID-19 yn dal gyda ni ac yn cynyddu, felly, mae angen dilyn arweiniad o hyd.

Pryd fydd y canolfannau'n ailagor?

Mae'r canolfannau canlynol wedi ailagor: Brooklands, Brondeg, Ystrad Mynach, Oaklands

Bydd gweithiwr cymdeithasol yn cysylltu â chi ynghylch presenoldeb.

Bydd sesiynau bore neu brynhawn, nid diwrnodau cyfan. Bydd mwy o sesiynau ar gael yn Brooklands.

Mae gohebiaeth wedi'i hanfon at unigolion yn cynghori y bydd y model cymysg hwn o bresenoldeb sesiynol yn y gymuned ac mewn canolfannau yn parhau hyd nes y bydd y gwaith i gyd-gynhyrchu model ar gyfer gwasanaethau dydd wedi'i gwblhau.

A fyddaf i'n mynd yn ôl i'r un ganolfan ag yr oeddwn i'n arfer ei mynychu ac a fydd ar yr un diwrnodau?

Bydd gennych chi gymorth a fydd yn parhau yn y gymuned a/neu mewn canolfan. Os cewch chi eich blaenoriaethu gan y tîm gwaith cymdeithasol i fynd i ganolfan, ni allwn ni warantu y bydd yn yr un ganolfan ag yr oeddech chi'n arfer ei mynychu neu ar yr un amserau ac yn yr un modd.

Byddwn ni'n edrych ar ardaloedd daearyddol o ganolfannau a all ddiwallu eich anghenion chi.  Byddwn ni'n eich cynorthwyo mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn; os gallwn ni eich cynorthwyo chi yn eich cymuned leol chi, byddwn ni'n anelu at gyflawni hynny.

Pam mae'r niferoedd sy'n gallu mynychu canolfan yn cael eu lleihau?

Mae Iechyd a Diogelwch wedi ymweld ddwywaith ac yn argymell niferoedd llai o hyd, e.e. yn un o'r canolfannau dydd, roedd 60 yn mynychu bob dydd mewn 4 ystafell, hynny yw tua 15 o bobl yr ystafell, ynghyd â 3 neu 4 aelod o staff, sef tua 20 o bobl yr ystafell.

Yr argymhelliad yw 4 person yr ystafell, sef uchafswm o 16 y dydd os ydyn ni'n agor pob ystafell. Felly, mae sesiynau wedi'u cyflwyno i gynorthwyo cymaint o bobl â phosibl sydd wedi'u blaenoriaethu gan Asesu a Rheoli Gofal. Mae 2 ganolfan eisoes ar agor; mae Brooklands ar agor am 2 ddiwrnod, sef 4 sesiwn yr wythnos, a Brondeg am 3 diwrnod, sef 6 sesiwn yr wythnos. Gydag Asesu a Rheoli Gofal.

Ym mis Hydref 2021, ail-agorodd Oaklands am ddau ddiwrnod, hynny yw 4 sesiwn, ac yn Ystrad Mynach am bedwar diwrnod, sef 8 sesiwn yr wythnos, gan ddarparu yn y bore a'r prynhawn.

Y canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer y bobl fwyaf agored i niwed, y mae llawer ohonynt yn defnyddio gwasanaethau dydd, yw peidio â chymysgu â phobl y tu allan i'w teulu. Mae'n well i chi gwrdd yn yr awyr agored, os yn bosibl, a chadw pellter cymdeithasol o 2 fetr.

Mae canolfannau dydd ar agor mewn awdurdodau lleol eraill, felly, beth am Gaerffili? 

Rydyn ni'n deall bod awdurdodau lleol eraill yn gweithredu model tebyg i ni, h.y. maen nhw'n darparu gwasanaethau dydd ar sail sesiynol yn y gymuned gyda niferoedd is mewn canolfannau. Nid yw rhai awdurdodau wedi ailagor unrhyw ganolfannau.

Sut byddwch chi'n fy nghadw'n ddiogel?

Bydd yr holl staff yn parhau i ddilyn arweiniad mewn perthynas â gwisgo cyfarpar diogelu personol tra byddan nhw yn y ganolfan. Bydd gofyn i staff gynnal profion llif unffordd. Bydd staff wedi derbyn hyfforddiant mewn rheoli atal heintiau a byddan nhw'n dilyn asesiadau risg cadarn a fydd yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. 

Bydd y mwyafrif o staff wedi derbyn eu brechiadau a'u dosau atgyfnerthu. Bwriad hyn yw lleihau effaith COVID-19 ond nid yw'n gwarantu na fydd pobl yn cael nac yn lledaenu'r feirws.

Bydd y ganolfan yn cydymffurfio â'r rheoliadau ynghylch COVID-19 mewn perthynas â glendid a chadw pellter cymdeithasol.

Beth os yw aelod o staff neu rywun arall sy'n mynychu gyda mi yn profi'n bositif am COVID-19?

Pe bai hyn yn digwydd, byddwn ni'n cysylltu â chi ac, efallai, y bydd gofyn i chi gael prawf llif unffordd.  Yn dibynnu ar eich statws brechu COVID-19, efallai na fydd yn rhaid i chi hunanynysu. Os byddwch chi'n datblygu symptomau yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd angen i chi gael prawf PCR.    

Sut y bydd anghenion fy ngofalyddion i yn cael eu diwallu mewn perthynas â seibiant?

Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch hyn, cysylltwch â'ch tîm gwaith cymdeithasol a all drefnu asesiad gofalydd.

A fydd cludiant yn cael ei ddarparu?

Dim ond os nad oes gennych chi unrhyw ffordd arall o gyrraedd y ganolfan y bydd cludiant yn cael ei ddarparu, er enghraifft dim teulu/gofalydd a allai eich cludo chi, neu ddim cerbyd symudedd. 

Mae gan yr awdurdod feini prawf cludiant y mae'r Cabinet wedi cytuno arnyn nhw. Bydd hyn yn helpu eich cadw chi'n ddiogel, gan fod nifer y bobl ar fysiau hefyd yn gyfyngedig oherwydd COVID-19.

A fydd prydau bwyd yn cael eu darparu?

Ni fydd prydau bwyd yn cael eu darparu ond mae croeso i chi ddod â byrbrydau. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael yn ystod eich sesiwn chi. Nid yw'r ceginau wedi'u tynnu o'r canolfannau.

Pam mae dwy sesiwn dydd ar wahân ac yna bwlch? Ydyn ni'n gallu cael un sesiwn gyfan fel o'r blaen?

Pe bai un diwrnod cyfan, byddai llai o bobl sy'n gallu cael cymorth, a byddai'r rhai sy'n cael cymorth yn cael llai o ddiwrnodau.

Mae'r ddwy sesiwn ar wahân sydd â bwlch rhyngddyn nhw yn galluogi glanhau'r canolfannau yn unol â chanllawiau Iechyd a Diogelwch a'r asesiad risg COVID-19 sydd ar waith.

Os gall aelod o fy nheulu fynd allan i'r gymuned i dafarn neu gaffi, pam nad ydyn nhw'n cael mynd i mewn i ganolfan ddydd?

Mae'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn parhau i ddilyn canllawiau Iechyd a Diogelwch wrth i ni gynorthwyo oedolion sy'n agored i niwed. Mae'n ofynnol o hyd i staff wisgo cyfarpar diogelu personol a chael profion llif unffordd. Hefyd, mae Atal a Rheoli Heintiau yn cael ei reoli'n llym ar draws lleoliadau gofal cymdeithasol gyda chynlluniau ar y gweill ar gyfer glanhau ac ati.

Pam mae Canolfan Ddydd Springfield wedi'i throi'n gaffi?

Bydd Springfield yn dal i gynnig cymorth sesiynol i unigolion. Dim ond mewn rhan o'r adeilad y bydd y caffi. Rydyn ni hefyd yn edrych i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth i unigolion, ac mae Springfield mewn lleoliad delfrydol ar gyfer cyfleuster caffi. 

Byddwn ni hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer sesiynau penodol yn yr adeilad, fel ffotograffiaeth, gwneud cardiau ac ati. Mae cyfleoedd cyflogaeth - p'un a yw'n brofiad gwaith, gwaith gwirfoddol neu gyflogaeth â thâl - yn rhywbeth y mae pobl ag anabledd dysgu wedi gofyn amdano ers blynyddoedd lawer. 

Mae gwaith hefyd yn grymuso unigolion a hoffai wneud hyn, ond nid yw at ddant pawb.

Rydyn ni'n bwriadu agor y caffi yn y lle cyntaf ar gyfer bwyd a diod tecawê erbyn diwedd Ebrill 2022.

A yw darparu llai o wasanaethau dydd yn ffordd o arbed arian?

Nid oes gofyniad i wneud arbedion ariannol o ran gwasanaethau dydd.

Pam mae nifer y sesiynau i bobl yn cael eu lleihau?

Mae timau asesu a rheoli gofal wedi blaenoriaethu pob unigolyn ar gyfer sesiynau cymunedol/canolfan.  Mae nifer y sesiynau y gallwn ni eu darparu yn cynyddu, ond mae'r argyfwng cenedlaethol wrth recriwtio ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn effeithio'n sylweddol ar gapasiti.

A yw gwasanaethau dydd yn statudol?

Nid yw gwasanaethau dydd yn statudol, nid ydyn nhw'n wasanaethau rheoledig ac felly nid oes rhaid iddyn nhw gael eu darparu gan awdurdodau lleol. Fodd bynnag, rydyn ni'n cydnabod eu pwysigrwydd, a dyna pam rydyn ni'n parhau i ddarparu gwasanaethau er bod llai o gapasiti.

Pwy sy'n penderfynu pwy sy'n cael mynediad at wasanaethau dydd?

Timau Asesu a Rheoli Gofal.

Mae pawb wedi cael eu brechu yn erbyn COVID-19, felly ni ddylai fod unrhyw broblemau gyda staffio canolfannau dydd?

Nid yw pawb wedi cael eu brechu a gall hyn fod o ddewis. Mae'r rhaglen atgyfnerthu wedi dod i ben a nawr mae'r bwrdd iechyd yn cynnig pedwerydd pigiad i bobl sydd ag ymwrthedd imiwn uchel.

Mae cael brechiad deirgwaith yn lleihau'r effaith ond nid yw'n atal pobl rhag cael COVID-19 fel rydyn ni'n ei weld mewn cartrefi gofal.

Gyda phwy y gallaf i gysylltu i gael atebion i unrhyw gwestiynau pellach sydd gennyf i?

E-bost: CwynionaGwybodaethGC@caerffili.gov.uk
Ffôn: 0800 328 4061
Diweddarwyd ddiwethaf 05/04/2022

Share on Facebook
Share on Twitter
 
Post Feedback
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Print this page
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2022, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl