Cyfleusterau Croesi Newydd a Gwella Mynediad i Gerddwyr, Trelyn, Pengam

Teitl

Cyfleusterau Croesi Newydd a Gwella Mynediad i Gerddwyr, Trelyn, Pengam

Agor

1 Tachwedd 2019

Cau

25 Tachwedd 2019

Trosolwg

Bydd y cynllun yn darparu'r gwelliant INMC47 sydd wedi'i gynnwys yn y Map Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol sydd wedi'i gymeradwyo.

Nod yr ymgynghoriad yw casglu barn y trigolion lleol gan gynnwys staff a disgyblion yr ysgol o ran cynllun arfaethedig a fydd yn gwella cyfleusterau croesfannau i gerddwyr a chyfleoedd yng nghymuned Trelyn. Mae arolwg o groesfannau i gerddwyr wedi ein galluogi i gasglu tystiolaeth o'r galw/angen ar gyfer croesfannau ac i ddatblygu'r cynllun arfaethedig.  

Mae'r cynigion yn yr ymgynghoriad yn cynnwys y gwelliannau canlynol:

  • Cyfleusterau croesi yn y gyffordd bresennol ag arwyddion (A4049 / B4254)
  • Croesfan pâl newydd ag arwyddion sy'n cysylltu â llwybr gwell.
  • Palmant botymog ac addasiadau i lwybrau a rheiliau llaw i wella mynediad i gerddwyr. 
  • Porth gwell ar ddechrau'r rhan Terfyn Cyflymder 30mya ac arwyddion rhybuddio a marciau ffordd gerbydau ychwanegol

Pam rydym yn ymgynghori?

Er mwyn sicrhau bod trigolion yn gallu lleisio'u barn ar y cynllun arfaethedig a galluogi i ni ystyried unrhyw awgrymiadau.

Dogfennau

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y Map Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol sydd wedi'i gymeradwyo ar gael o'r wefan Teithio Llesol: https://www.caerffili.gov.uk/TeithioLlesol

Ffyrdd o fynegi eich barn

https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=157124218487

Ymholiadau

Cysylltwch â Mrs Liz Gibby ar 01443 866595 neu drwy anfon e-bost i gibbye@caerffili.gov.uk

Dyddiad disgwyliedig y canlyniadau

29 Tachwedd 2019

Canlyniadau disgwyliedig

Byddwn yn darparu crynodeb o'r barnau fel adroddiad