Gorfodi bathodynnau glas
Cyfrifoldeb y person a enwir ar y bathodyn glas yw sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio'n gywir. Mae'r bathodyn a'i gonsesiynau at ddefnydd y deiliaid a enwir yn unig.
Bydd sicrhau bod y cynllun ddim yn cael ei gamddefnyddio o fudd i ddeiliaid bathodynnau dilys.
Mae'n drosedd i chi neu unrhyw un arall gamddefnyddio'r bathodyn, a gallai gwneud hynny arwain at ddirwy o £1,000.
Bwriedir y bathodyn ar gyfer parcio ar y stryd yn unig. Mae meysydd parcio oddi ar y stryd, fel y rhai a ddarperir mewn meysydd parcio awdurdod lleol, ysbyty neu archfarchnad yn dod o dan reolau ar wahân.
Mae'r ddolen ganlynol yn darparu gwybodaeth ar sut a phryd y dylid defnyddio'ch bathodyn, gan gynnwys lle y gallwch ac na allwch barcio. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ddefnyddio'ch bathodyn glas dramor.
Mwy o wybodaeth am fathodynnau glas