Teithio ar y trên 

I weld amserlenni trên i Gaerdydd a Llinellau’r Cymoedd a gwasanaethau eraill a weithredir gan Trafnidiaeth Cymru ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru.

cyswllt rheilffordd 901

cyswllt rheilffordd 901 yw’r gwasanaeth penodedig, cyflym a chyfleus sy’n cysylltu gorsaf Ystrad Mynach â’r Coed Duon. Ewch i'r adran cyswllt rheilffordd i gael manylion.

Cardiau rheilffordd

Prynwch gerdyn rheilffordd a gallwch wneud arbedion gwych. Mae sawl cerdyn rheilffordd gwahanol ar gael – Cerdyn Rheilffordd Dau Gyda’ch Gilydd, Cerdyn Rheilffordd i’r Teulu a Ffrindiau, Cerdyn Rheilffordd 16-25 oed a Cherdyn Rheilffordd i Bobl Hŷn. Hefyd, mae cardiau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru ar gael. Ewch i'r adran cardiau rheilffordd am fanylion.