Cynllunio teithio a theithio cynaliadwy – Cae Sant Barrwg, Bedwas

Agor

19 Gorffennaf 2019

Trosolwg

Mae Cynllun Teithio wedi'i amlygu ar gyfer ystâd dai Cae Sant Barrwg, ac mae Llanmoor Homes wedi penodi Cydlynydd Cynllun Teithio i gynnal arolygon a gweithredu mesurau i annog teithio cynaliadwy a theithio llesol ar gyfer teithiau pob dydd.

Gall cludiant trefol cynaliadwy – megis cerdded, beicio a chludiant cyhoeddus (trenau neu fysiau) – wella'r amgylchedd lleol, lleihau tagfeydd a llygredd aer lleol, a gwneud ein cymunedau'n lleoedd mwy dymunol i fyw, gweithio ac ymweld â hwy. 

Gall ymgysylltu â Chynllun Teithio Cae Sant Barrwg gael llawer o fanteision cadarnhaol, gan gynnwys:

  • Gwella iechyd a llesiant;
  • Lleihau eich costau teithio;
  • Gwella eich mynediad i wasanaethau lleol;
  • Gwella diogelwch ar y ffyrdd lleol;
  • Lleihau amseroedd teithio;
  • Gwella eich dewisiadau a'ch opsiynau teithio;
  • Creu cymuned leol lanach a mwy bywiog; a
  • Cael effaith gadarnhaol ar ansawdd aer lleol a lleihau allyriadau carbon.

Mae'r Cynllun Teithio yn ei gwneud yn ofynnol i breswylwyr sy'n symud i'r safle ateb ychydig o gwestiynau fel rhan o arolwg o'u teithiau pob dydd. Bydd patrymau teithio yn cael eu monitro dros y tair blynedd nesaf o ddyddiad cwblhau'r arolwg cychwynnol – bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth well o ddewisiadau teithio'r preswylwyr.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Pecyn Gwybodaeth Teithio, gan gynnwys manylion am sut y gallwch hawlio cymorth o ran costau teithio ar fysiau a threnau, cael beic neu gael offer cerdded i'ch galluogi i deithio'n gynaliadwy yn yr ardal leol.

Pam rydym yn ymgynghori?

Rydym yn cynnal arolwg ymhlith y preswylwyr er mwyn dangos patrymau teithio sylfaenol preswylwyr yr ystâd, sef cam angenrheidiol wrth gwblhau Cynllun Teithio Cae Sant Barrwg. Bydd yr arolwg yn cael ei gynnal bob blwyddyn am gyfnod o dair blynedd, a bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu mentrau yn y dyfodol ac i werthuso effeithiolrwydd y Cynllun Teithio.

Ffyrdd o fynegi eich barn

Mae'r ddolen ganlynol yn cysylltu â'r arolwg ar-lein. Mae hwn ar gyfer preswylwyr Cae Sant Barrwg yn unig, a dylai gael ei lenwi gan bawb sy'n byw yn y cartref.

https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=155972698488

Byddwch hefyd wedi cael fersiwn papur yn eich pecyn gwybodaeth teithio – os oes angen mwy nag un copi o'r arolwg, gwnewch gopïau ohono.

Dogfennau

Ymholiadau

Gellir cael rhagor o gymorth drwy anfon e-bost at Gydlynydd y Cynllun Teithio:

E-bost: TeithioLlesol@caerffili.gov.uk
Ffôn: 01443 866595

Dyddiad disgwyliedig y canlyniadau 

Bydd canlyniad pob arolwg yn cael ei gynnwys yn y cylchlythyron i breswylwyr.

Canlyniadau disgwyliedig

Bydd anghenion teithio preswylwyr yr ystâd yn cael eu deall yn well. Bydd yr arolwg yn llywio mentrau yn y dyfodol i annog teithio cynaliadwy ac i fonitro effeithiolrwydd unrhyw fentrau sy'n cael eu gweithredu.