Cyfrifoldebau a chymorth i dirfeddianwyr

Fel tirfeddiannwr, chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod mynediad ar gael i'r hawliau tramwy cyhoeddus ar eich tir. Mae hyn yn cynnwys sicrhau eu bod yn glir o gnydau, llystyfiant sy’n hongian uwchlaw a rhwystrau (gan gynnwys strwythurau anawdurdodedig fel camfeydd a gatiau) yn ogystal â chynnal a chadw strwythurau awdurdodedig.

Mae angen i chi gael caniatâd gennym i roi unrhyw strwythur newydd ar draws yr hawl dramwy ond nid i wneud atgyweiriadau i strwythur sy'n bodoli eisoes.

Rydym yn gyfrifol am wyneb hawl dramwy, ac weithiau gall eich gweithrediadau neu'ch gweithgareddau achosi difrod i’r hawl dramwy.  O dan amgylchiadau o'r fath, byddwn yn ceisio sicrhau gwaith atgyweirio gennych neu eich bod chi yn talu ein costau gwaith i atgyweirio hawl dramwy.

Gallwn hefyd ymgynghori â chi ynghylch codi arwyddion naill ai ar y pyst presennol os yw'n briodol, neu drwy osod pyst newydd ar eich eiddo i nodi llwybr hawl dramwy yn gywir.

Help i gynnal a chadw hawliau tramwy ar eich tir

Rydym yn darparu o leiaf 25% o'r costau a ysgwyddir gennych wrth ddisodli neu atgyweirio camfeydd a gatiau cyfreithlon, fel arfer drwy ddarparu'r deunyddiau.  Trafodwch hyn gyda ni cyn gwneud y gwaith os oes modd, oherwydd efallai y gallwn ni gynorthwyo ymhellach – er enghraifft: ein nod yw rhoi gatiau yn lle camfeydd lle bo hynny'n ymarferol, ac os ydych yn cytuno i roi gât yn ei lle, byddwn fel arfer yn talu'r gost i gyd – hyd yn oed y gwaith gosod.

Cysylltwch â ni