Ffioedd a thaliadau hawliau tramwy

Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith a wnawn yn cael ei wneud yn rhad ac am ddim.

Serch hynny, mae rhai agweddau ar ein gwaith sy'n arwain at ffi.  Mae costau o'r fath yn cynnwys hysbysebu yn y wasg fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth ar gyfer gwneud Gorchmynion penodol.

Os oes gennych bryderon ynghylch costau a allai godi oherwydd proses yr hoffech ei chyflawni, cysylltwch â ni i drafod hyn ymlaen llaw.

Tîm Rheoli Traffig y Cyngor sy'n cynnal Gorchmynion Rheoleiddio Traffig (neu gau llwybrau dros dro). Cost benodol o £1,500.00 sydd i’r rhain (ac eithrio TAW) fesul Gorchymyn.

Cysylltwch â ni