Y map a'r datganiad diffiniol

Y map a'r datganiad diffiniol yw'r cofnod cyfreithiol ar gyfer hawliau tramwy cyhoeddus.

Os dangosir hawl dramwy ar y map a'r datganiad diffiniol, mae hynny'n dystiolaeth bendant yn y gyfraith bod hawl dramwy gyhoeddus fel y’i dangosir a bod ganddi o leiaf y statws a nodwyd, ond heb ragfarnu unrhyw gwestiwn ynghylch hawliau tramwy cyhoeddus ychwanegol a allai fodoli ar ei hyd.

Mae pob llwybr wedi'i rifo yn ôl y plwyf lle mae wedi'i leoli. Bydd 'copi gwaith' y map diffiniol yn cael ei newid os caiff cyfeiriad llwybr ei newid drwy orchymyn cyfreithiol neu os caiff llwybrau newydd eu hawlio, eu creu neu eu dileu.

Mae'r datganiad diffiniol yn cyfateb i'r map a'i fwriad yw egluro'r sefyllfa, ac weithiau lled llwybr, a chofnodi unrhyw fanylion eraill.

Does dim modd prynu'r map diffiniol ond gallwch ei weld yn y swyddfa Hawliau Tramwy yn Nhŷ Bargod, 1 Ffordd Santes Gwladys, Bargod CF81 8AB, lle gellir trefnu darnau neu gopïau ohono. Nid oes angen apwyntiad, ond rydym yn eich cynghori i gysylltu â ni i sicrhau y bydd rhywun yn gallu eich helpu gyda'ch ymholiad. 

Cywiro'r Map Diffiniol

Os ydych chi’n credu bod y Map a'r Datganiad Diffiniol yn anghywir, gallwch wneud cais o dan Adran 53(5) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 i'w addasu. Er enghraifft:

  • Gallech wneud cais i ychwanegu hawl dramwy at y map os oes llwybr yn bodoli ar y tir ond nad yw'n cael ei ddangos ar y Map Diffiniol;
  • Efallai eich bod wedi defnyddio llwybr troed ar gefn ceffyl am gyfnod hir, ac felly gallech wneud cais i'w newid i lwybr ceffylau;
  • Neu efallai y byddwch am gywiro gwall a ddangosir ar y map megis aliniad anghywir llwybr.

Cofrestr ceisiadau

Rydym yn cadw cofrestr o geisiadau a wnaed o dan Adran 53(5) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 sydd ar gael i'w gweld isod:

Cysylltwch â ni