Canolfannau Hamdden yn ailagor - cwestiynau cyffredin

Pa ganolfannau hamdden sydd ar agor?

Canolfannau hamdden Caerffili, Trecelyn, Heolddu, Cefn Fforest, Bedwas, Sue Noake, Trecelyn, Cenydd Sant a Rhisga.  

A oes modd i mi logi'r cyfleusterau awyr agored (caeau gwair artiffisial ac ati)?

Oes. Mae ein cyfleusterau awyr agored ar gael yn unol â chanllawiau'r Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol (e.e. Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru).

A oes rhaid i mi gadw slot ar y we neu'r ap i ddefnyddio'r ystafell ffitrwydd?

Nid oes angen archebu lle ymlaen llaw bellach – gallwch chi droi i fyny a defnyddio'r cyfleuster yn eich amser eich hun.

A fydd modd talu ag arian parod?

Bydd. Bydd taliadau arian parod yn cael eu derbyn, ond gofynnwn ni, lle bo modd, i gwsmeriaid dalu gan ddefnyddio cerdyn digyswllt.

Sut byddaf i'n gallu cadw pellter cymdeithasol yn yr ystafell ffitrwydd?

Rydyn ni wedi gosod uchafswm ar gyfer nifer y defnyddwyr yn ein hystafelloedd ffitrwydd yn seiliedig ar eu maint er mwyn sicrhau bod modd i chi ymarfer gyda'r holl wagle sydd ei angen arnoch chi.

Rydyn ni wedi gadael lle rhwng yr offer, ble bynnag y bo modd, er mwyn sicrhau bod bwlch digonol rhwng yr aelodau wrth iddyn nhw ymarfer. Rydyn ni hefyd yn manteisio ar ardaloedd eraill yn y ganolfan hamdden er mwyn darparu lle ychwanegol i'r ystafell ffitrwydd.

Rydyn ni hefyd wedi cyflwyno arwyddion clir o amgylch yr ystafell ffitrwydd er mwyn helpu aelodau i gadw pellter cymdeithasol, a bydd aelodau o'r tîm ar gael drwy'r amser i gynnig cymorth.

Sut mae'r offer yn cael eu glanhau?

Rydyn ni wedi cynyddu ein hamserlenni glanhau ni i sicrhau bod ein canolfannau hamdden ni’n hollol lân ac wedi'u diheintio'n llwyr drwy ddefnyddio deunydd glanhau feirwsleiddiol, sydd wedi'i ardystio i ladd feirysau.

Mae diheintydd, tyweli papur, a hylif diheintio dwylo ar gael ym mhob ardal o'r gampfa, ac rydyn ni'n gofyn i bob aelod helpu i gadw ein canolfannau hamdden yn ddiogel trwy lanhau'r offer cyn ac ar ôl eu defnyddio.

Rwy'n poeni am sut i gadw pellter cymdeithasol yn yr ystafell ffitrwydd – sut byddaf i'n gwybod beth i'w wneud?

Rydyn ni eisiau rhoi croeso cynnes a chyfeillgar i chi wrth i chi ddychwelyd i'n canolfannau hamdden a gwneud i chi deimlo mor gyfforddus â phosibl. Mae aelodau ychwanegol o'r tîm wrth law ym mhob un o'n canolfannau hamdden. Byddan nhw'n canolbwyntio ar helpu ac addysgu aelodau ynghylch ein mesurau cadw pellter cymdeithasol, rheoli nifer y bobl a sicrhau bod yr holl dasgau diheintio a glanhau yn cael eu cyflawni, yn ogystal â chroesawu aelodau.

Byddwch chi hefyd yn sylwi ar lawer o arwyddion a hysbysiadau ychwanegol a fydd yn eich helpu chi i reoli a chadw pellter cymdeithasol.

A oes sesiynau hyfforddi personol ar gael?

Oes. Mae sesiynau hyfforddi personol nawr ar gael.

A yw'r ystafelloedd newid ar agor?

Mae'r ystafelloedd newid, cawodydd a loceri ar gael i gwsmeriaid eu defnyddio.

A oes angen i mi wisgo masg yn yr ystafell ffitrwydd?

Rydyn ni'n dilyn canllawiau'r Llywodraeth yn agos. Ar hyn o bryd, nid oes angen gwisgo masg wrth ddefnyddio cyfleusterau'r ystafell ffitrwydd.

Bydd angen i chi wisgo masg wyneb bob amser wrth ddod i mewn i'r ganolfan hamdden, wrth symud o gwmpas ac wrth fynd allan.

A oes rhaid cadw lle ymlaen llaw ar gyfer yr holl ddosbarthiadau ffitrwydd?

Er mwyn diogelu pawb, a'n helpu ni i reoli nifer y bobl, mae angen i aelodau gadw lle ymlaen llaw ar gyfer pob dosbarth – drwy'r wefan, yr ap neu dros y ffôn.

Sut rydych chi'n gwneud dosbarthiadau ffitrwydd yn ddiogel?

Rydyn ni'n rheoli nifer y bobl yn ein dosbarthiadau yn ofalus ac, felly, yn gofyn i aelodau gadw lle ymlaen llaw ar gyfer pob dosbarth – drwy'r ap ffôn symudol, ar-lein neu dros y ffôn.

Rydyn ni'n glanhau'r holl offer ac ategolion gan ddefnyddio deunydd diheintio cwbl feirwsleiddiol, wedi'i ardystio i ladd firysau.

Sut mae dosbarthiadau beicio mewn grŵp wedi'u heffeithio? 

Rydyn ni wedi gosod ein stiwdios beicio mewn grŵp yn ddiogel gyda beiciau wedi'u lleoli mor bell â phosibl oddi wrth ei gilydd, gan barhau i allu gweithredu ar leiafswm hyfywedd dosbarthiadau.

A oes rhaid i mi gadw slot drwy'r ap er mwyn defnyddio'r pwll nofio?

Nac oes.  Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi nad oes angen cadw lle ymlaen llaw ar gyfer nofio bellach – gallwch chi nawr droi i fyny a defnyddio’r cyfleuster yn eich hamdden chi yn ystod ein sesiynau nofio cyhoeddus ni.

A oes cyfyngiad ar nifer y bobl sy'n cael mynd i'r pwll nofio ar unrhyw un adeg?

Mae nifer y bobl sy'n cael mynd i'r pwll nofio yn amrywio, gan ddibynnu ar faint y cyfleuster. Fodd bynnag, mae hyn yn cael ei adolygu'n rheolaidd, yn unol ag asesiad risg y safle dan sylw.

Mae'r ystafelloedd newid, loceri a chawodydd nawr ar gael i gwsmeriaid eu defnyddio.

A yw'r cyfleusterau ystafell iechyd (ystafell stêm, sawna) ar gael?

Ydyn – nid oes angen cadw lle ymlaen llaw bellach.

A yw gwersi nofio yn cael eu cynnal?

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein rhaglen Dysgu i Nofio 2 yn ôl – am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’ch Canolfan Hamdden.

A yw dosbarthiadau yn y dŵr yn cael eu cynnal?

Mae dosbarthiadau yn y dŵr yn ôl! Edrychwch ar y dyddiau/amseroedd a chadw eich lle lle ar-lein neu ar yr ap.

Sut mae ymaelodi?

Gallwch chi ymaelodi yn eich Canolfan Hamdden leol neu dros y ffôn trwy gysylltu â'r Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid – 01443 863072. Bydd angen manylion eich cyfrif banc a bydd angen gwneud taliad cychwynnol i dalu am eich defnydd hyd nes eich taliad Debyd Uniongyrchol cyntaf.

Mae gen i gwestiwn am fy aelodaeth – â phwy ydw i'n cysylltu?

Cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 01443 863072 neu hamdden@caerffili.gov.uk

Nid oes gen i'r ap ‘Leisure Lifestyle’ – sut mae cael gafael arno?

Mae lawrlwytho'r ap yn hawdd – ewch i'r App Store neu Play Store ar eich dyfais, chwilio am ‘Leisure Lifestyle’ a chlicio ar ‘Download’ 

Methu dod o hyd i'r ateb i'ch cwestiwn?

Cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 01443 863072 neu hamdden@caerffili.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf: 28/02/2022