Canolfannau hamdden yn paratoi i'ch croesawu chi yn ôl
Eich diogelwch
Mae eich diogelwch chi a diogelwch y staff yn flaenoriaeth i ni.
Rhaid i chi beidio ag ymweld â'r ganolfan os ydych chi'n dost neu'n dangos symptomau coronafeirws (COVID-19). Rhaid i chi ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol a hylendid y Llywodraeth o ran COVID-19 bob amser.
Os ydych chi'n teimlo'n dost neu'n datblygu symptomau COVID-19, waeth pa mor ysgafn, neu os ydych chi wedi cael canlyniad positif mewn prawf COVID-19, yna dylech chi hunanynysu ar unwaith ac aros gartref a dilyn canllaw'r Llywodraeth.
Os ydych chi wedi dod i gysylltiad â rhywun â symptomau COVID-19, rhaid i chi gael prawf a hunanynysu gartref am 14 diwrnod.
Beth i ddisgwyl pan fyddwch chi'n ymweld â chanolfan hamdden
Mae gorchuddion wyneb yn ofyniad cyfreithiol a rhaid eu gwisgo ym mhob ardal, ac eithrio pan fyddwch chi'n ymarfer corff.
Bydd loceri, ystafelloedd newid, toiledau a chawodydd ar agor ac ar gael i bob cwsmer.
Byddwn ni'n parhau i ddarparu rhagor o awyr iach i ardaloedd gweithgareddau dan do er mwyn sicrhau bod eich ymweliad mor bleserus â phosibl.
Oriau agor canolfannau hamdde
|
Dydd Llun |
Dydd Mawrth |
Dydd Mercher |
Dydd Iau |
Dydd Gwener |
Dydd Sadwrn |
Dydd Sul |
Bedwas |
08:30 - 21:30 |
07:30 - 21:30 |
08:30 - 21:30 |
07:30 - 21:30 |
08:30 - 20:30 |
08:30 - 14:00 |
Ar gau |
Caerffili |
06:15 - 10:00 |
06:15 - 10:00 |
06:15 - 10:00 |
06:15 - 10:00 |
06:15 - 10:00 |
07:00 - 17:00 |
08:15 - 20:00 |
Heolddu |
09:00 - 22:00 |
07:00 - 22:00 |
07:00 - 22:00 |
07:00 - 22:00 |
09:00 - 21:00 |
09:00 - 16:00 |
09:00 - 16:00 |
Rhisga |
06:15 - 22:00 |
06:15 - 22:00 |
06:15 - 22:00 |
06:15 - 22:00 |
06:15 - 22:00 |
07:45 - 18:00 |
07:45 - 18:00 |
Cefn Fforest |
07:30 - 20:30 |
07:30 - 20:30 |
07:30 - 20:30 |
07:30 - 20:30 |
07:30 - 20:30 |
09:00 - 15:30 |
09:00 - 15:30 |
Trecelyn |
06:30 - 22:00 |
06:30 - 22:00 |
06:30 - 22:00 |
06:30 - 22:00 |
06:30 - 22:00 |
07:00 - 18:00 |
08:00 - 21:00 |
Sant Cenydd |
16:30 - 22:00 |
16:30 - 22:00 |
16:30 - 22:00 |
16:30 - 22:00 |
Ar gau |
Ar gau |
Ar gau |
Sue Noake |
16:00 - 21:00 |
16:00 - 21:00 |
16:00 - 21:00 |
16:00 - 21:00 |
16:00 - 21:00 |
Ar gau |
Ar gau |
Gwasanaethau sydd ar gael
Nofio – Mae nofio i'r cyhoedd ar gael yng Nghaerffili, Bedwas, Heolddu, Cefn Fforest, Rhisga a Threcelyn.
Polisi Mynediad I'r Pwll Nofio
Ystafelloedd ffitrwydd – Mae'r ystafelloedd ffitrwydd ar agor yng nghanolfannau Caerffili, Trecelyn, Sue Noake, Cenydd Sant, Heolddu a Rhisga.
Dosbarthiadau ymarfer corff mewn grŵp – Mae dosbarthiadau ymarfer corff mewn grŵp ar gael yng Nghaerffili, Heolddu, Trecelyn a Rhisga.
Sut i gadw lle
Rhaid cadw lle ymlaen llaw ar gyfer gweithgareddau – ar-lein, trwy'r ap neu drwy ffonio'r ganolfan hamdden o'ch dewis.
Rydyn ni'n gweithredu gwasanaeth heb arian parod a bydd taliadau gydag arian parod yn cael eu gwrthod. Lle bydd modd, talwch gyda cherdyn debyd/credyd wrth gadw lle.
NEU ffonio’r ganolfan hamdden:
- Caerffili – Ffoniwch 029 2085 1845
- Heolddu – Ffoniwch 01443 828950
- Trecelyn – Ffoniwch 01495 248100
- Rhisga – Ffoniwch 01633 600940
- Cefn Fforest - Ffoniwch 01443 830567
- Bedwas - Ffoniwch 029 2085 2538
- Sue Noake – ffonio 01443 815544
- Cenydd Sant – ffonio 029 2088 1448
Atebion i’ch cwestiynau
Rydyn ni wedi paratoi rhestr gynhwysfawr o gwestiynau ac atebion sy'n esbonio'r newidiadau i'r gwasanaeth o 9 Tachwedd.
Os nad yw'ch cwestiwn wedi'i ateb, cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 01443 863072 neu hamdden@caerffili.gov.uk.
Cysylltu â ni
Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden, rhif ffôn: 01443 863072 neu e-bostio hamdden@caerffili.gov.uk