Cymeradwyaeth ar gyfer gwaith ar adeiladau sydd ar brydles gan y cyngor

Cyn i chi ymgymryd ag unrhyw waith ar adeiladau sydd ar brydles gan y cyngor, rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gan ein Rheolwr Ystadau ar gyfer unrhyw waith a fydd: -

  • Yn addasu’r adeilad
  • Yn amharu ar ei adeiladwaith
  • Yn tarfu ar ei wasanaethau

Cyn i chi ymgymryd ag unrhyw waith, dylech lenwi a dychwelyd y ffurflen gais isod.

Cais i ymgymryd â gwaith (PDF)

Dylech ddychwelyd ffurflenni gorffenedig trwy’r e-bost neu’r post at:

Gwasanaethau Eiddo, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, CF82 7PG. E-bost: eiddo@caerffili.gov.uk.

Dylech ganiatáu dwy wythnos waith i gael ateb cychwynnol.

Cysylltwch â ni