Trin data o ran gwasanaethau cwsmeriaid

Mae eich hawl i breifatrwydd yn bwysig iawn i ni. Rydym yn cydnabod pan fyddwch yn rhoi gwybodaeth i ni amdanoch eich hun, eich bod yn ymddiried ynom i ymddwyn yn gyfrifol. Dyma pam ein bod wedi rhoi polisïau ar waith i ddiogelu’ch gwybodaeth bersonol.

Recordio galwadau ffôn

Mewn rhai rhannau o’r cyngor, rydym yn recordio galwadau ffôn yn rheolaidd at y dibenion canlynol:

  • I fonitro ansawdd trin galwadau a gwasanaeth cwsmeriaid
  • Hyfforddi a chynorthwyo staff
  • Dilysu’r hyn a ddywedwyd os oes gwrthdaro neu gŵyn
  • Diogelu staff rhag ymddygiad difrïol
  • Cadarnhau cytundeb cwsmeriaid mewn rhai ceisiadau am wasanaeth

Os yw’n debygol y caiff eich galwad eich recordio, yna gwneir ymdrech resymol i sicrhau eich bod yn gwybod hynny. Fel arfer, cyflawnir hyn drwy chwarae recordiad ar ddechrau’r alwad.

Pan fydd angen cadarnhau rhywbeth rydych wedi’i ddweud (e.e. bod y wybodaeth rydych wedi’i rhoi yn cefnogi cais yn wir ac yn gywir) cewch eich atgoffa bod y sgwrs yn cael ei recordio.

Polisi Recordio Galwadau (PDF)

Adborth gan gwsmeriaid

Mae'n bwysig ein bod yn deall eich barn ar y gwasanaeth a roddwn. I wneud hyn, byddwn yn dewis achosion o ryngweithio â chwsmeriaid dros y ffôn, yn ein swyddfeydd i gael gwasanaeth neu dros e-bost, ac yna naill ai’n eu ffonio, e-bostio neu’n ysgrifennu atynt am eu barn.

Os byddwch yn ffonio neu’n e-bostio, ac nad ydych am i ni gysylltu â chi i gael eich barn, rhowch wybod i ni yn ystod yr alwad neu yn yr e-bost.

Rhannu gwybodaeth

I’n helpu i gynllunio gwasanaethau sy’n gweithio’n well i gwsmeriaid a’r gymuned, rydym weithiau’n rhannu data rhwng rhannau gwahanol o’r cyngor i geisio deall gofynion cwsmeriaid yn well.

Mae’r data hwn yn aros yn y cyngor, a phan fo’n bosibl nid yw’n cynnwys data y gellir ei gysylltu â chi fel unigolyn. I weld rhestr o brojectau sy’n cynnwys elfen o rannu data, ewch i’r dudalen projectau rhannu data.

Weithiau, gallwn ddefnyddio’r data a roddwyd gennych i roi gwybod i chi am wasanaethau eraill y cyngor a allai fod o ddefnydd i chi, ond efallai na wyddoch chi amdanynt.

Gallwn hefyd wirio data a gedwir mewn rhannau gwahanol o’r cyngor i nodi twyll a throseddu eraill posibl.

I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein gwefan Diogelu Data - Hysbysiad Proses Teg.

Privacy Notice

Hysbysiad preifatrwydd gwasanaethau cwsmeriaid (PDF)