Cymorth gwasanaethau cymdeithasol y tu allan i oriau

Tîm Dyletswydd Argyfwng De-ddwyrain Cymru

Ein horiau busnes arferol yw dydd Llun i ddydd Iau 8.30am i 5pm a dydd Gwener 8.30am i 4.30pm ac rydym ar gau ar wyliau banc. Mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn darparu gwasanaeth brys y tu allan i oriau swyddfa arferol. Mae'r gwasanaeth hwn yn delio â sefyllfaoedd argyfwng yn unig na all aros tan y diwrnod gwaith nesaf.

Ffoniwch 0800 3284432

Pryd y gallwn helpu

Cysylltwch â ni 

  • os oes angen amddiffyn plentyn neu berson ifanc rhag niwed ar frys
  • os oes angen help, cyngor neu gefnogaeth ar frys ar riant, gofalwr maeth neu blentyn
  • os oes angen help ar frys ar ofalwr neu oedolyn sy'n agored i niwed (rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, anableddau corfforol neu anableddau dysgu neu bobl hŷn).

Pryd na allwn helpu

Ni allwn helpu:

  • os gall y sefyllfa aros tan y diwrnod gwaith nesaf, heb risg o niwed
  • os yw'n ddiwrnod gwaith - dylech gysylltu â'r adran gwasanaethau cymdeithasol berthnasol yn ystod oriau swyddfa
  • os yw'n argyfwng meddygol – dylech ffonio eich meddyg teulu neu ambiwlans.

Pwy all ddefnyddio'r gwasanaeth?

Pobl sy'n byw ym mwrdeistrefi Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen sydd angen help mewn argyfwng gan y gwasanaethau cymdeithasol, p'un a ydynt eisoes yn derbyn ein gwasanaethau ai peidio.

Unrhyw un sy'n ffonio ar ran rhywun arall, p'un a yw'n weithiwr proffesiynol, yn berthynas, yn ffrind neu'n ofalwr.

Pryd mae'r gwasanaeth ar gael?

Mae'r gwasanaeth argyfwng y tu allan i oriau ar gael pryd bynnag y bydd swyddfeydd gwasanaethau cymdeithasol eraill ar gau. Gellir ond cael gafael ar y gwasanaeth dros y ffôn neu finicom yn ystod yr amseroedd canlynol:

  • Dydd Llun i ddydd Iau rhwng 5pm a 8.30am
  • Dydd Gwener rhwng 4.30pm ac 8.30am y dydd Llun canlynol
  • Gwyliau banc a phenwythnosau, 24 awr    

Pwy ydym ni?

Darperir y gwasanaeth argyfwng gan reolwyr tîm a gweithwyr cymdeithasol cymwysedig a sydd wedi'u hyfforddi. Mae'r gwasanaeth argyfwng yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau yn ystod y dydd. Caiff pob galwad ffôn ei chofnodi a chaiff y manylion y byddwch yn eu rhoi i'r gwasanaeth argyfwng eu pasio ymlaen i'r tîm gofal cymdeithasol yn ystod y dydd priodol y diwrnod canlynol.

Sut y bydd y gwasanaeth yn delio â'm cais?

Mae'r gwasanaeth yn blaenoriaethu ceisiadau ar sail y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi felly mae'n bwysig eich bod yn rhoi cymaint o wybodaeth ag y gallwch. 

Mae cyfrinachedd yn bwysig i ni. Rydym ond yn rhoi gwybodaeth i bobl sydd ei hangen er mwyn delio â'r sefyllfa argyfwng. Os nad ydym yn cytuno bod angen gwasanaeth argyfwng arnoch, byddwn yn rhoi cyngor i chi ynglŷn â lle y gallwch gael help.