Ymgynghoriad ynghylch Map Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol – Cam 1

Teitl

Ymgynghoriad ynghylch Map Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol – Cam 1

Dyddiad agor

3 Chwefror 2021

Dyddiad cau

10 Mawrth 2021

Trosolwg

Rhaid i'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru ailgyflwyno eu Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Rhagfyr 2021.

Rydyn ni'n adolygu'r Rhwydwaith Teithio Llesol ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili i nodi cynigion ar gyfer llwybrau newydd a nodi a oes angen gwella'r llwybrau presennol.

Bydd yr ymgynghoriad ar ffurf tri cham.

  • Bydd Cam 1 yn cynnwys rhoi adborth ar rwystrau i gerdded a beicio trwy'r offeryn ar-lein, Commonplace (gweler y ddolen isod).
  • Yna, bydd Cam 2 yn ceisio barn ar y seilwaith presennol yn y Fwrdeistref Sirol a pha anawsterau y mae pobl yn eu cael wrth gerdded neu feicio.
  • Yna, bydd Cam 3 yn ceisio cael gwybod a oes unrhyw lwybrau yr hoffech chi eu gweld yn y dyfodol?

Pam rydym yn ymgynghori?

Rydyn ni'n ceisio galluogi mwy o deithiau cerdded a beicio ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili i ganiatáu ffordd iachach o fyw er mwyn ein trigolion a hefyd ein helpu ni i leihau allyriadau carbon. Er mwyn ein helpu ni i gyflawni hyn, rydyn ni'n ceisio barn trigolion ar ffyrdd o gael gwared ar rwystrau i Deithio Llesol. Bydd eich adborth a'ch syniadau yn ein helpu ni i ystyried mapiau rhwydwaith newydd ar gyfer buddsoddi yn y rhwydwaith Teithio Llesol yn y dyfodol er budd Bwrdeistref Sirol Caerffili. Bydd y rhain yn cael eu hystyried i'w cynnwys ar Fap Rhwydwaith Teithio Llesol diwygiedig a fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2021.

Dogfennau

Mae modd gwneud sylwadau drwy ddilyn y ddolen isod
https://caerphilly.commonplace.is/about/?lang=cy-GB#

Ffyrdd o fynegi eich barn

Mae modd gwneud sylwadau drwy ddilyn y ddolen isod
https://caerphilly.commonplace.is/about/?lang=cy-GB#

Ymholiadau

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy ddilyn y ddolen isod
https://caerphilly.commonplace.is/about/?lang=cy-GB#

Fel arall, os ydych chi eisiau cyflwyno sylwadau trwy e-bost, neu os oes angen cymorth arnoch chi o ran defnyddio'r map, cysylltwch â TeithioLlesol@caerffili.gov.uk

Dyddiad disgwyliedig y canlyniadau

Canol mis Ebrill 2021

Canlyniadau disgwyliedig

Bydd yr holl sylwadau yn cael eu bwydo i adolygiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili o'r Rhwydwaith Teithio Llesol. Bydd hyn yn helpu nodi llwybrau y mae angen eu gwella i alluogi pobl i gerdded a beicio mwy. Yn eu tro, bydd y sylwadau'n cael eu defnyddio i ddilysu'r rhwydwaith diwygiedig drafft ar gyfer Teithio Llesol y byddwn ni'n ymgynghori yn ei gylch yn ddiweddarach.