Trafodaeth Caerffili - Ymgynghoriad Cyllideb 2019 - 2020

Cynigion cyllideb drafft ar gyfer 2019 - 2020

Ar ddydd Mercher 14 Tachwedd, bu Aelodau'r Cabinet yn ystyried cynigion drafft ar gyfer sicrhau arbedion – ynghyd â chynnydd uwch na'r disgwyl yn Nhreth y Cyngor – sef cyfanswm o £15.6 miliwn a mwy. Mae angen i'r Cyngor sicrhau'r arbedion hyn i fantoli'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Ym mis Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei setliad cyllideb dros dro, a roddodd y manylion am faint o arian a fydd yn cael ei roi i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Dan y setliad, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn wynebu gostyngiad o 0.3% yn ei gyllid.

Mae hyn, ynghyd â'r pwysau anochel y mae rhaid i'r Cyngor eu hariannu, yn golygu bod rhaid i'r Cyngor ddod o hyd i arbedion o £14.7 miliwn bron (£14.660m) ar gyfer y flwyddyn nesaf (2019/20), gyda chynnydd arfaethedig sy'n uwch na'r disgwyl yn Nhreth y Cyngor i wneud iawn am y diffyg sy'n weddill.

Er dywedodd Canghellor y Trysorlys, yn Natganiad yr Hydref, y byddai arian ychwanegol yn dod i Gymru, nid yw'n glir hyd yn hyn a fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn elwa, na sut bydd yn elwa; ac mae'n annhebygol y bydd y Cyngor yn cael gwybod am hyn tan ganol mis Rhagfyr.

O ran ei gynigion cyllideb drafft ar gyfer 2019/2020, dyma rai o'r cynigion y mae rhaid i'r Cyngor eu hystyried:

  • Lleihau gwaith glanhau'r strydoedd, torri gwair, a chynnal a chadw priffyrdd
  • Cau dwy ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref
  • Lleihau'r gwariant ar lyfrgelloedd, ieuenctid, gwasanaethau i oedolion, a darpariaeth gofal dydd
  • Lleihau cyllidebau'r ysgolion a mentrau'r ysgolion
  • Codi prisiau prydau ysgol
  • Dod â'r gwasanaeth Wardeiniaid Diogelwch Cymunedol i ben
  • Cau toiledau cyhoeddus a phedair canolfan gymunedol
  • Dod â'r gwasanaeth Pryd ar Glud i ben, heblaw yn achos cleientiaid o dan adran 117

Mae cynigion drafft y Cyngor i sicrhau arbedion yn y gyllideb hefyd yn cynnwys cynnydd arfaethedig o 6.95% yn Nhreth y Cyngor er mwyn helpu'r Cyngor i gyrraedd ei dargedau heriol iawn o ran sicrhau arbedion. Byddai'r cynnydd cyfystyr â chynnydd blynyddol o £73.51, neu gynnydd wythnosol o £1.41, ar gyfer eiddo Band D.

budget_animationWelsh.gif

Ymgynghori ar y Gyllideb

Roedd y cynigion hyn yn destun cyfnod o ymgynghoriad cyhoeddus eang a gynhaliwyd o ddydd Llun 19 Tachwedd tan ddydd Gwener 11 Ionawr 2019. 

Mae rhestr lawn o'r arbedion arfaethedig ar gyfer 2019/2020 ar gael yma: Cynigion Drafft ar Gyfer Arbedion 2019/20 (PDF)

Daeth yr ymgynghoriad ar y gyllideb i ben ar ddydd Gwener 11 Ionawr 2019. Ailystyriwyd nifer o gynigion i sicrhau arbedion yn dilyn adborth gan drigolion, a chymeradwywyd y gyllideb ar gyfer 2019/2020 gan y Cyngor ar 21 Chwefror 2019. Am ragor o wybodaeth: https://www.caerphilly.gov.uk/News/News-Bulletin/February-2019/Council-budget-for-2019-20-approved?lang=cy-gb

Dogfennau atodol

Rhagor o wybodaeth

Cysylltwch â ni drwy ffonio 01443 864354 neu drwy anfon neges e-bost at unedgyfathrebu@caerffili.gov.uk.