Ymgynghoriad Datganiad o Bolisi Trwyddedu Deddf Hapchwarae

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wrthi'n adolygu'r Datganiad o Bolisi Trwyddedu mewn perthynas â'r Ddeddf Hapchwarae.

Mae Deddf Hapchwarae 2005 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Trwyddedu gyhoeddi Datganiad o Bolisi Trwyddedu sy'n nodi'r gwahanol ffactorau y bydd y Cyngor yn eu hystyried wrth weinyddu a phenderfynu ceisiadau a wneir o dan y Ddeddf hon.

Gweithredwyd y polisi presennol ym mis Ionawr 2016 ac mae bellach yn destun adolygiad.

Mae rhai o'r newidiadau arfaethedig i'r polisi presennol –

  • yn nodi'n gliriach y mathau o Safleoedd Hapchwarae.
  • yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr / deiliaid trwyddedau gynnal gwiriadau angenrheidiol o aelodau staff lle mae gan blant a phobl agored i niwed fynediad
  • yn nodi'r math o amodau y gellid eu gosod ar drwydded.
  • yn rhoi mwy o arweiniad ar loterïau cymdeithas fach.
  • yn rhoi cyngor i ymgeiswyr / deiliaid trwyddedau am amodau a chodau ymarfer sy'n ymwneud ag asesiadau risg lleol.

Heblaw'r ychwanegiadau hyn, mae dim ond mân newidiadau cosmetig i'r polisi cyfredol wedi cael eu gwneud.

Fel rhan o'r ymarfer ymgynghori, bwriedir cysylltu â'r bobl neu'r sefydliadau hynny sy'n debygol o gael eu heffeithio gan y polisi a gofyn am eu barn. 

Bydd y cyfnod ymgynghori’n cychwyn ar 25ain Gorffennaf 2018 a bydd yn rhedeg tan 31ain Awst 2018. Dylai unrhyw un sy'n dymuno gwneud sylwadau wneud hynny cyn y dyddiad hwn, er mwyn iddynt gael eu hystyried.

Mae copïau o'r polisi drafft ar gael i lawr lwytho isod:

Os hoffech wneud unrhyw sylwadau / awgrymiadau ac ati, gwnewch hynny drwy anfon e-bost at  trwyddedu@caerffili.gov.uk neu drwy'r post i'r Tîm Trwyddedu, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7PG.

Privacy Notice

Hysbysiad preifatrwydd ymgynghoriadau ac arolygon (PDF)

Cysylltwch â ni