System Trefnu Apwyntiadau ar gyfer Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref 

Dyddiad agor

22 Chwefror 2021

Dyddiad cau

10 Mawrth 2021

Trosolwg

Hoffai'r Cyngor gael eich barn ar gyflwyno system trefnu apwyntiadau ym mhob Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.  

Mae hwn yn ddull a fabwysiadwyd gan gynghorau ledled y DU a'i nod yw lleihau amseroedd ciwio, lleihau tagfeydd rhag ciwio ar y briffordd a darparu rhagor o gyfleoedd i drigolion ailgylchu mewn modd mwy diogel a rheoledig.  

Bydd trigolion yn gallu trefnu apwyntiad ar-lein, dros y ffôn a defnyddio opsiynau eraill. 

Mae'r arolwg hwn yn rhoi cyfle i chi roi adborth i ni ar y cynigion hyn.

Ffyrdd o fynegi eich barn

Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau

Diolch i bawb a wnaeth ymateb i'r arolwg. Byddwn ni nawr yn coladu'r adborth hwn ac yn ystyried sut y gellir ail-lunio'r gwasanaeth yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref i ddiwallu anghenion ein trigolion.

Yn y cyfamser, bydd safleoedd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn parhau i weithredu o fewn mesurau diogelwch COVID-19 ac er bod gan hyn oblygiadau ar amseroedd aros, byddwch cystal â sylweddoli bod y mesurau rheoli safleoedd hyn yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol yn ystod y cyfamser. 

Gallwch chi fod yn sicr ein bod ni wedi ymrwymo i wella gwasanaethau yn barhaus, a diolch am eich amynedd a'ch cydweithrediad yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Ymholiadau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad hwn, neu os oes angen unrhyw ran o'r wybodaeth hon arnoch ar ffurf papur, e-bostiwch ailgylchu@caerffili.gov.uk.  

Canlyniadau disgwyliedig

Ar ôl 10 Mawrth 2021, byddwn yn adolygu'r holl ymatebion ac yn eu hystyried fel rhan o benderfyniadau i gyflwyno'r cynigion.