Cynnydd mewn Prisiau Siwrnai Cerbyd Hacni (Tacsi)

Mae'r Awdurdod Trwyddedu yn cychwyn ymarfer ymgynghori statudol o 14 diwrnod ynglŷn â chynnydd prisiau  siwrnai Cerbyd Hacni  (Tacsi) arfaethedig yn y Fwrdeistref.

Mae’r Awdurdod Trwyddedu wedi derbyn cynrychiolaethau oddi wrth berchnogion Cerbyd Hacni trwyddedig yn y fwrdeistref, yn ymwneud â chynnydd mewn Prisiau Siwrnai Cerbyd Hacni. Cafodd y cynnydd pris siwrnai diwethaf yng Nghaerffili ei wneud 8 mlynedd yn ôl ym mis Awst 2010.

Mae gan aelodau o’r cyhoedd gyfle i roi sylwadau ar y cynigion a fydd yn arwain at y cynnydd canlynol os cymeradwyir (gweler y tabl).

Bydd unrhyw wrthwynebiadau ysgrifenedig i’r cynigion yn cael eu hystyried gan y cyngor. Gall gwrthwynebiadau yn ymwneud â’r cynigion gael eu cyflwyno i trwyddedu@caerffili.gov.uk neu i’r Is-adran Drwyddedu, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7PG. Bydd yr ymgynghoriad yn gorffen ar 17 Awst 2018.

Atodlen Prisiau Siwrnai Cerbydau Hacni  (PDF)

Privacy Notice

Hysbysiad preifatrwydd ymgynghoriadau ac arolygon (PDF)