Ymgynghoriad Strategaeth toiledau lleol

O dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 mae gennym ddyletswydd i baratoi a chyhoeddi Strategaeth Toiledau Lleol ar gyfer y fwrdeistref sirol.

Rhaid i ni gyhoeddi ein Strategaeth Toiledau Lleol erbyn 31 Mai 2019 a chynnwys cynllun yn dangos sut y byddwn yn diwallu anghenion a nodwyd. Nid yw'n ofynnol i ni ddarparu a chynnal toiledau cyhoeddus eu hunain, ond rhaid i ni gymryd golwg strategol ar sut y gall ddarparu cyfleusterau a sut y gall ein poblogaeth leol gael mynediad at gyfleusterau.

Yn ystod Hydref 2018, cwblhawyd asesiad o angen, gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus, i nodi'r ddarpariaeth bresennol, yr angen presennol ac anghenion y dyfodol a'r bylchau yn y ddarpariaeth. Cafodd adborth a chanfyddiadau'r gwaith hwn eu hymgorffori yn y Strategaeth Ddrafft Toiledau Lleol. Roedd y strategaeth ddrafft yn agored i gyfnod o ymgynghori rhwng 14 Rhagfyr 2018 a 8 Mawrth 2019.

Mae'r ymgynghoriad nawr wedi dod i ben. Bydd ymatebion yr ymgynghoriad yn cael eu dadansoddi a byddant yn llywio'r Strategaeth Toiledau Lleol derfynol. Cyhoeddir hyn erbyn 31 Mai 2019.

Gwybodaeth Ategol

Privacy Notice

Hysbysiad preifatrwydd ymgynghoriadau ac arolygon (PDF)