Ymgynghoriad Cyhoeddus ar wneud Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus sy'n ymwneud ag Yfed Alcohol mewn Mannau Cyhoeddus

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gwahodd pobl leol i ddweud eu dweud ar ein cynlluniau i ymestyn Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus sy'n ymwneud ag yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Gyda chyflwyniad y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014 trosglwyddodd yr holl Orchmynion Mannau Cyhoeddus Dynodedig a oedd yn bodoli ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn awtomatig ar ôl cyfnod o dair blynedd i Orchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus. 

Rydym yn ceisio'ch barn ar ymestyn y Gorchmynion hyn am 12 mis arall.

Mae'r Gorchymyn yn cynnwys y cyfyngiadau canlynol:

  • Ni chaiff neb yfed alcohol pan ofynnir i beidio â gwneud hynny gan berson awdurdodedig neu gwnstabl.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau ar 29 Gorffennaf 2020 am gyfnod o 6 wythnos. 

  • Mae’r arolwg ar y cynnig i ymestyn y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn ymwneud â rheoli cŵn ym Mwrdeistref Sirol Caerffili bellach wedi dod i ben. Bydd Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd yn ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad maes o law.

Bydd yr holl sylwadau ac adborth o'r ymghynghoriad yn cael eu hystyried cyn i'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus cael ei ymestyn.

Ardaloedd wedi'u gwarchod gan Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus

Ewch i'n tudalen Ardaloedd wedi'u gwarchod gan Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus i weld rhestr lawn.