Ymgynghoriad Gorchmynion Amddiffyn Mannau Cyhoeddus

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn bwriadu ymestyn dwy Orchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (GDMAC) sy'n cwmpasu ein gorsafoedd, arosfannau a llochesi bysiau ym mwrdeistref sirol Caerffili.

Cyflwynwyd y GDMAC ym mis Hydref 2015 o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 mewn ardaloedd a nodwyd gan y gymuned, yr Heddlu a'r awdurdod lleol fel mannau lle'r oedd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd ac yn cael effaith andwyol ar ansawdd o fywyd y rhai yn yr ardal.

Mae GDMAC yn gosod amodau neu gyfyngiadau ar bobl sy'n defnyddio ardal benodol ac y gellid rhoi Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 i unrhyw un a ddarganfuwyd sy'n torri'r Gorchymyn neu'n wynebu erlyniad yn y Llys.

Mae GDMAC yn parhau am dair blynedd ond gellir ei ymestyn am dair arall os yw gweithgareddau gwrthgymdeithasol yn parhau. Mae'r dystiolaeth a gafwyd gan yr Heddlu, Wardeiniaid Cymunedol, Teledu Cylch Cyfyng yr Awdurdod Lleol ac asiantaethau partner eraill yn nodi bod Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn dal i fod yn broblem yn yr ardaloedd a restrir yn y GDMAC presennol ac y bydd ymestyn y Gorchmynion yn caniatáu i'r Heddlu a'r awdurdod lleol barhau i dargedu'r rhai sy'n achosi'r materion hyn.

Cynnig

Bwriedir ymestyn y ddau Orchymyn sydd ar waith ar hyn o bryd, heb amrywiad, am 3 blynedd arall hyd at Hydref 2021. Mae manylion llawn y Gorchmynion cyfredol, yr Ardaloedd Cyfyngedig a'r cyfyngiadau a gymhwysir i'w gweld yma: https://www.caerphilly.gov.uk/Services/Emergencies-and-crime-prevention/Public-Space-Protection-Orders.

Ymgynghoriad

Mae angen yr ymgynghoriad hwn dan Adran 72 (3) Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

Mae angen yr ymgynghoriad hwn dan Adran 72 (3) Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

Gwahoddir sylwadau ar y cynnig uchod gan ddefnyddio'r ffurflen isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r cynigion hyn, e-bostiwch  caerfflisaffach@caerffili.gov.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad yw 1af Medi 2018.

Privacy Notice

Hysbysiad preifatrwydd ymgynghoriadau ac arolygon (PDF)