Ysgolion Cynradd Gilfach Fargod a'r Parc

Mae cyrff llywodraeth Ysgol Gynradd Gilfach Fargod a’r Parc, ynghyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (yr Awdurdod Lleol) yn bwriadu defnyddio'r pwerau a roddwyd iddo gan Reoliadau Ffederasiwn Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 i sefydlu Ffederasiwn ysgolion Cynradd Gilfach Fargod a'r Parc. 

Mae cyrff llywodraethu'r ddwy Ysgol wedi ymgynghori â'r awdurdod lleol (Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili) ac mae pob un ohonynt yn cefnogi'r cynnig. 

Os derbynnir y cynnig, bydd y Ffederasiwn yn dod i rym ar 1 Medi 2019.

Os hoffech lenwi ffurflen ymateb, gellir gweld copi yn y ddogfen atodedig.

Gellir anfon ffurflenni wedi'u llenwi at unrhyw un o'r canlynol:

  • Ysgol Gynradd Gilfach Fargod, Stryd Vere, Bargod, CF81 8LB    
  • Ysgol Gynradd y Parc, Cilgant-y-parc, Bargod, CF81 8PN
  • Keri Cole, Prif Swyddog Addysg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Penallta, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7PG 
  • E-bost: ysgolionyr21ainganrif@caerffili.gov.uk​

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn dechrau ddydd Llun 22 Hydref ac yn dod i ben ddydd Llun 10 Rhagfyr 2018.