Safonau Gwasanaethau Cwsmer

Mae cyngor bwrdeistref sirol Caerffili yn darparu ystod eang o wasanaethau amrywiol sy'n caniatau mynediad atynt gan bobl o bob oed a gallu - 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Mae ein gwahanol adrannau'n ymdrin â phob agwedd ar ddarparu gwasanaethau o'r crud i'r bedd ac rydym o'r farn bod ein cwsmeriaid wrth wraidd ein busnes.

Rydym yn darparu addysg, gwasanaethau cymdeithasol, priffyrdd, iechyd yr amgylchedd, safonau masnach, hamdden, llyfrgelloedd, ailgylchu, diogelu'r cyhoedd, twristiaeth, cynllunio, tai, trafnidiaeth gyhoeddus yn ogystal â'r gwasanaethau cefnogi allweddol eraill sy'n cadw'r sefydliad yn rhedeg.

Er mwyn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o safon i'n holl gwsmeriaid, mae gennym set newydd o Safonau Gwasanaeth Cwsmeriaid Corfforaethol.

Bydd gofyn i staff ar bob lefel ar draws y sefydliad adlewyrchu'r safonau hyn ym mhopeth mae nhw’n ei wneud.

Safonau Gwasanaethau Cwsmer Corfforaethol (PDF)