Gwiriwr Signal Ffonau Symudol

Mae rhwydweithiau ffonau symudol yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod trigolion y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn gynhyrchiol, yn ddiogel ac yn gysylltiedig. Fodd bynnag, mae signal ffonau symudol yn ddarn o seilwaith cenedlaethol hollbwysig nad yw’n cael ei ddeall yn iawn oherwydd ei natur anweledig. Mae hyn yn aml yn arwain trigolion, busnesau ac adrannau’r llywodraeth i wneud penderfyniadau caffael anwybodus oherwydd dealltwriaeth wael o ba rwydweithiau sy’n perfformio orau yn yr ardaloedd y maen nhw'n treulio amser ynddyn nhw.

Yn dilyn cwynion am signal gan staff a thrigolion, dechreuodd Cyngor Caerffili weithio gyda Streetwave i fesur ansawdd signal ffonau symudol ledled y Fwrdeistref Sirol ym mis Medi 2023.

Fe wnaeth Streetwave integreiddio eu hoffer casglu data blaengar yn barhaol i gerbydau casglu gwastraff Caerffili. Mae hyn wedi galluogi Caerffili i gwblhau arolygon signal ffonau symudol wythnosol ar draws pob cyfeiriad yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'r arolygon hyn wedi bod yn arloesol o ran eu hymagwedd flaengar a lefelau’r data sydd wedi'i gasglu.

Mae ansawdd rhwydwaith yn cael ei ddadansoddi ar draws y pedwar prif rwydwaith ffonau symudol yn y Deyrnas Unedig: EE, O2, Three a Vodafone. Mae cyflymderau prosesu, cryfder y signal, a gwybodaeth am genhedlaeth y rhwydwaith i gyd yn cael eu casglu yn yr arolygon.

Mae'r fethodoleg hon yn ddatblygiad o'r arolygon profi gyriant sy'n cael eu defnyddio'n draddodiadol i feincnodi signal ffonau symudol, gan ei bod yn sicrhau bod Caerffili yn cadw'r wybodaeth ddiweddaraf am signal ffonau symudol. Mae hefyd yn caniatáu i Gaerffili arbed 457kg o allyriadau CO2 y mis drwy ddileu’r angen am yrrwr i yrru ar hyd holl ffyrdd y Fwrdeistref Sirol.

Er mwyn cynorthwyo trigolion a busnesau i ddewis y rhwydweithiau ffonau symudol gorau, mae Cyngor Caerffili bellach yn sicrhau bod y data hwn ar gael i'r gymuned leol trwy'r gwiriwr signal ffonau symudol cyntaf erioed yn y Deyrnas Unedig sydd wedi'i ddarparu gan gyngor sir. Mae hyn yn welliant enfawr o gymharu â’r gwirwyr signal sydd wedi'u darparu gan weithredwyr rhwydwaith ffonau symudol, gan nad yw’r signal ffonau symudol wedi’i amcangyfrif ac, yn lle hynny, mae wedi’i fesur yn ffisegol y tu allan i dŷ pob trigolyn drwy arolygon Caerffili.

Gall trigolion ddefnyddio’r ddolen ganlynol i weld yr union gyflymder lawrlwytho a lanlwytho y mae EE, Vodafone, Three ac O2 yn eu cynnig o fewn radiws o 30m y tu allan i’w cartrefi/busnesau. Y cwbl sydd angen i drigolion ei wneud yw nodi eu cod post a dewis eu cyfeiriad i weld y canlyniadau. Mae'r data'n cael ei ddiweddaru'n fisol pan fydd y lorïau bin yn ailadrodd eu rowndiau i sicrhau bod y cyflymderau prosesu diweddaraf yn cael eu dangos.

Gwirio Signal Ffonau Symudol

Streetwave Logo