Archif Newyddion

Chwilio Newyddion

Archif Newyddion
Cyfanswm y cyllid fesul plentyn fydd £117 i deuluoedd sy'n gymwys ar ddydd Gwener 21 Gorffennaf 2023. Os byddwch chi'n dod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar ôl y dyddiad hwn, byddwch chi'n cael swm gostyngol.
Bydd y gwaith yn dechrau ar 22 Gorffennaf 2023 am gyfnod o 6 wythnos i gyd-ddigwydd â llif traffig is yn ystod gwyliau haf yr ysgolion. Bydd yr A469 ar gau i'r ddau gyfeiriad yn ystod y gwaith, a bydd llwybr gwyriad ar hyd A4049 Pengam Road a'r A472.
Rydyn ni'n ymwybodol o weithgarwch ar gyfryngau cymdeithasol yn ymwneud â’r cae pob tywydd yng Nghanolfan Hamdden Rhisga ac yn dymuno egluro’r sefyllfa
Cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ei gyflwyno â Gwobr Datblygu Gweithlu yng Ngwobrau Rhagoriaeth Cymdeithas Hyfforddiant Asbestos y DU (UKATA). Yr athletwr Olympaidd Kriss Akabusi oedd yn cyflwyno'r seremoni fawreddog yng Ngwesty Radisson Blu ym Maes Awyr Dwyrain Canolbarth Lloegr ar ddydd Gwener 7 Gorffennaf 2023.
Mae mam a dwy ferch o Fochriw a fu’n bridio cŵn heb drwydded gan fagu o leiaf 27 torllwyth dros gyfnod o 2 flynedd wedi’u dedfrydu am fridio cŵn heb drwydded o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006
Mae Canolfan Farchogol Smugglers, sydd wedi'i lleoli ar Pen-deri Farm Lane ym Manmoel ger Coed Duon, yn cynnig lifrai i'r gymuned leol, yn ogystal â gwersi marchogaeth, llogi faniau ceffylau, llogi cyfleusterau a lle i gynnal digwyddiadau.